Un Rhwydwaith, Llawer o Gysylltiadau - Rhwydwaith Effaith

Rydym yn falch i gyhoeddi y cynhelir digwyddiad nesaf rhwydweithio
Effaith am 5 - 7:30pm ddydd Iau 16 Tachwedd yn y Swyddfeydd
Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy. Cod post: NP23 6AA

Rydym yn cydweithio gyda Cyflymu Cymru I Fusnesau i gyflwyno...
Mynd yn Ddigidol Technoleg yn eich Busnes!

Gyda dros 3.7 biliwn o bobl ar-lein, dewch I ganfod sut y gallwch adeiladu eich presenoldeb
ar-lein, ennill cwsmeriaid newydd, arbed arian a thyfu eich busnes gyda thechnoleg ddigidol.

Hefyd cael mwy o wybodaeth am:
• Eich llwyfan busnes rhyngweithiol ar-lein newydd AM DDIM
• Sut y gallwch CHI ddathlu EICH llwyddiant busnes
• a chynlluniau cymorth busnes sydd ar gael i CHI

Peidiwch â cholli’r digwyddiad hanfodol yma

Lluniaeth a Rhwydweithio

Bydd cymorth busnes cyffredinol hefyd ar gael gan Effaith BG, Uned Datblygu Economaidd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Busnes Cymru, Cyflymu Busnes Cymru i
Fusnesau.

Gyda 180 yn bresennol yn y digwyddiad diwethaf, mae Rhwydwaith Effaith yn ffordd berffaith i chi gysylltu’n anffurfiol AM DDIM gyda busnesau ac entrepreneuriaid llawn.

P’un ai ydych yn meddwl am fusnes newydd, neu eisoes wedi mentro neu eisiau tyfu eich busnes ... ymunwch â’n Rhwydwaith Effect, gallwn helpu!

Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys ... Parch Marchnata The Effect,
Cymorth Busnes ar y safle, Cymorth Ariannol, Rhwydweithio Anffurfiol, Lluniaeth.

Cliciwch YMA i archebu eich lle

http://eventpilot.evolutive.co.uk/eventDetails.aspx?siteId=323&eventNo=63581