O fis Medi, bydd dysgwyr cymwys yn Blaenau Gwent yn derbyn cymorth ychwanegol. Mae Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad) yn helpu gyda gwisg ysgol, offer chwaraeon, offer ysgrifennu a dyfeisiau.
Yr wythnos diwethaf, datgelodd ymchwil gan Sefydliad Bevan fod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn torri’n ôl ar eitemau hanfodol oherwydd costau byw cynyddol.
Mewn rhai ardaloedd o Gymru, mae hyd at 40% o ddysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn colli allan ar gefnogaeth arall sydd ar gael iddynt. Eleni, mae Blaenau Gwent yn ymrwymedig i dywys rhieni a gofalwyr at y cyllid cywir.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol Pobl ac Addysg:
“Mae cyllid ar gyfer Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad) yn gam pwysig o ran atal arian rhag bod yn rhwystr i addysg plant. Rydym yn annog unrhyw un sy’n teimlo y gallen nhw fod yn gymwys i gysylltu â ni i gefnogi rhieni a dysgwyr drwy’r flwyddyn ysgol.”
Os nad yw eich plentyn/plant yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd a bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gall Blaenau Gwent gynnig cymorth i chi. I weld a ydych yn gymwys ar gyfer Pryd o Fwyd am Ddim neu Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad) sy’n cynnwys cymorth ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau, ewch i https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/prydau-ysgol-am-ddim/
Os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, efallai y bydd gennych hawl i gymorth ychwanegol drwy Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad). I gael mynediad i’r cynllun eleni, cliciwch yma. https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/grant-gwisg-ysgol/
Bydd Prydau Ysgol am Ddim yn cael eu cyflwyno i holl blant ysgolion cynradd Cymru dros y tair blynedd nesaf. I helpu’r dysgwyr ieuengaf cyn gynted â phosibl, bydd pob plentyn mewn Dosbarthiadau Derbyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim o’r mis Medi hwn.
Mae’r polisi Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn rhan o Gytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob dysgwr cynradd dros y tair blynedd nesaf. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Darganfod mwy am brydau ysgol am ddim | LLYW.CYMRU.