Trefniadau Gwasanaethau y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2019/20

Bydd swyddfeydd Cyngor Blaenau Gwent yng Nglynebwy ac Abertyleri ar gau o 12 canol-dydd ddydd Mawrth 24 Rhagfyr 2019 ac yn ail-agor ddydd Iau 2 Ionawr 2020.


Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) ar gau o 12 canol-dydd ddydd Mawrth 24 Rhagfyr 2019 ac yn ailagor ddydd Iau 2 Ionawr 2020 am 8am.

Gellir cysylltu â'r gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol sef 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gwasanaeth larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at 0845 056 8035. Mae galwadau i'r rhif hwn yn costio 5c y funud ynghyd â thâl mynediad eich cwmni ffôn.


Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa'r Tîm Dyletswydd ar gau o 12 ganol-dydd ddydd Mawrth 24 Rhagfyr 2019 a bydd yn ail-agor am 9am ddydd Iau 2 Ionawr.

Yn ystod cyfnod y Nadolig cysylltwch â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar 0800 328 4432 os gwelwch yn dda.


Swyddfa Cofrestrydd Blaenau Gwent

• Dydd Llun 23 Rhagfyr 2019 - 9am i 4pm 
• Dydd Mawrth 24 Rhagfyr 2019 - 9am i 12pm
• Dydd Mercher 25 Rhagfyr 2019 - AR GAU

• Dydd Iau 26 Rhagfyr 2019 - AR GAU
• Dydd Gwener 27 Rhagfyr 2019 (Cofrestru Marwolaethau yn unig 10am - 2pm)         
• Dydd Llun 30 Rhagfyr 2019 - 10am i 2pm
• Dydd Mawrth 31 Rhagfyr 2019 - 10am i 2pm
• Dydd Mercher 1 Ionawr - AR GAU
• Dydd Iau 2 Ionawr 2020 - 9am i 1pm
• Dydd Gwener 3 Ionawr 2020 - 9am i 4pm

Gofynnir i chi nodi y bydd Swyddfa'r Cofrestrydd ar gau i archebu copïau o dystysgrifau/tystysgrifau hanesyddol o ddydd Llun 23 Rhagfyr tan ddydd Iau 2 Ionawr 2020.


Desg Arian a Thaliadau

Bydd Gwasanaethau Cwsmeriaid Budd-daliadau ar agor ddydd Mawrth 24 Rhagfyr rhwng 9am a 12 canol-dydd a bydd y ddesg arian ar agor rhwng 8.30am a 12 canol-dydd. Byddant wedyn ar gau tan ddydd Iau 2 Ionawr 2020. Bydd Budd-daliadau yn ailagor am 9 am a'r ddesg arian yn ailagor am 8.30am.

Ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gwneud taliad rhwng y dyddiadau hyn mae'r llinell dalu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir wneud taliadau drwy wefan Blaenau Gwent. Mae galwadau i'r rhif hwn yn costio 5c y funud ynghyd â thâl mynediad eich cwmni ffôn.

Opsiynau Cymunedol a Gwasanaethau Dydd

Bydd Opsiynau Cymunedol (Gwasanaethau Dydd) yn agor fel arfer ddydd Mawrth 24 Rhagfyr 2019 ac yn cau am 12 canol-dydd. Bydd ar gau dros gyfnod y Nadolig. Bydd y gwasanaeth yn ail-agor ar 2 Ionawr 2020 am 8.30a.m.

Casgliadau Ailgylchu a Sbwriel - Trefniadau'r Nadolig

Bydd casgliadau Ailgylchu a Sbwriel ddau ddiwrnod yn hwyrach yn ystod cyfnod y Nadolig eleni. Os byddai eich diwrnod casglu arferol ar:-
Dydd Mercher 25 Rhagfyr 2019 caiff ei gasglu ddydd Gwener 27 Rhagfyr 2019;
Dydd Iau 26 Rhagfyr 2019 caiff ei gasglu ddydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2019;
Dydd Gwener 27 Rhagfyr 2019 caiff ei gasglu ddydd Sul 29 Rhagfyr 2019.

Bydd casgliadau Ailgylchu a Sbwriel un diwrnod yn hwyrach yn ystod cyfnod y Flwyddyn Newydd. Os byddai eich diwrnod casglu arferol ar:
Dydd Mercher 1 Ionawr 2020 caiff ei gasglu ddydd Iau 2 Ionawr 2020;
Dydd Iau 2 Ionawr 2020 caiff ei gasglu ddydd Gwener 3 Ionawr 2020;
Dydd Gwener 3 Ionawr 2020 caiff ei gasglu ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2020;
Bydd pob casgliad yn dychwelyd i'r arferol o ddydd Llun 6 Ionawr 2020

Gwasanaeth Casglu Cewynnau a Hylendid
Caiff sachau Cewynnau a Hylendid eu casglu o flaen eich cartref ar:-
Dydd Gwener 20 Rhagfyr 2019
Ni fydd unrhyw gasgliad ddydd Gwener 27 Rhagfyr 2019
Bydd y casgliad Cewynnau a Hylendid oedd i fod ddydd Gwener 3 Ionawr 2020 yn cael ei wneud ddydd Sadwrn 4 Ionawr 2020
Bydd casgliadau wythnosol arferol Cewynnau a Hylendid yn ailddechrau ddydd Gwener 10 Ionawr 2020
Ailgylchu eich Coeden Nadolig
Bydd Adran Gwastraff y Cyngor yn darparu gwasanaeth i gasglu ac ailgylchu eich Coeden Nadolig o ddydd Llun 6 Ionawr 2020. Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 i gofrestru eich manylion neu cofrestrwch ar adran Fy Ngwasanaethau Cyngor ar wefan y cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk i gadarnhau diwrnod casglu ar gyfer eich coeden Nadolig.

Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi, Safle Amwynder Dinesig Cwm Newydd

Bydd Safle Amwynder Dinesig Cwm Newydd ar agor yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd rhwng 10.00am a 4.30pm (dydd Llun - dydd Sul) ar gyfer preswylwyr i gael gwared â deunydd gwastraff. Bydd y safle ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan yn unig.
Cyfeiriad: Stad Ddiwydiannol Waun-y-Pound, Glynebwy, NP23 6PL

Gwybodaeth Ychwanegol ar gyfer y Nadolig


• Dim ond cardiau cyfarch plaen y dylid eu hailgylchu. Ni fedrwn dderbyn cardiau Nadolig gliter neu addurniadau fel bows, pom poms, glain ac ati fel rhan o'n casgliad ailgylchu a bydd angen eu rhoi yn eich bagiau du;

• Bydd angen rhoi unrhyw bolystyren yn eich bagiau du i gael ei gasglu;

• Hoffem atgoffa pawb fod lwfansau gwastraff bag du, naill ai bedwar bag du neu un bin olwyn, yn parhau'n weithredol dros gyfnod yr ŵyl.. Ni fyddwn yn casglu unrhyw wastraff ychwanegol a roddir ar ochr neu ar dop eich bin neu sy'n fwy na lwfans pedwar bag du;

• Gall pobl fynd ag unrhyw wastraff bag du dros ben i Cwm Newydd ond dylid gwneud yn siŵr fod yr holl ailgylchu wedi ei dynnu cyn mynd i'r safle neu gofynnir i chi ddidoli eich gwastraff ar y safle;

• Ni fedrir ailgylchu papur lapio Nadolig. Rhowch yn y bag du/bin ar gyfer eich casgliad sbwriel 3-wythnosol os gwelwch yn dda;

• Dylai cardfwrdd ychwanegol gael ei bacio'n wastad a'i roi wrth ochr eich blychau ailgylchu;

• Gellir casglu eitemau trydanol bach, batris a thecstilau yn wythnosol ar yr un pryd â'ch casgliad ailgylchu arferol. Rhowch eitemau mewn bagiau os gwelwch yn dda a'u rhoi ar dop neu wrth ochr eich blychauu ailgylchu;

• Cardfwrdd - Gofynnwn i breswylwyr blygu neu dorri eu cardfwrdd gymaint ag y gallant pan fyddant yn ei roi mas i'w ailgylchu. Gofynnir i chi nodi, oherwydd y byddwn yn casglu llawer o gardfwrdd yn ystod y cyfnod hwn, y bydd y Cyngor yn defnyddio nifer o gerbydau (loriau sbwriel ac ailgylchu) i gasglu hyn. Bydd eich cardfwrdd yn dal i gael ei ailgylchu pa bynnag fath o gerbyd y Cyngor y caiff ei gasglu ynddo.

Mae eich ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth mawr - Diolch