Trefniadau Gwasanaeth Gwyliau Banc y Pasg

Bydd Swyddfeydd Cyngor Blaenau Gwent yng Nglynebwy ac Abertyleri ar gau rhwng 5.00pm dydd Iau 29 Mawrth hyd 9.00am dydd Mawrth 3 Ebrill.

Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5.00pm ddydd Iau 29 Mawrth a bydd yn ailagor am 8.00am ddydd Mawrth 3 Ebrill. Fodd bynnag, gallwch chi dal i gyflwyno adroddiadau, ceisiadau a cheisiadau i'r Cyngor drwy'r Porth cwsmeriaid Fy Ngwasanaethau ar ein gwefan www.blaenau-gwent.gov.uk neu drwy‘r ap ffôn symudol Blaenau Gwent ar gael oddi wrth Apple, Google Play a siop ap Windows.

Gellir cysylltu â'r gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gwasanaeth larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid gwneud ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at 0845 056 8035.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa'r Tîm Dyletswydd ar gau o 5.00pm dydd Iau 29 Mawrth a bydd yn ail-agor am 9.00am dydd Mawrth 3 Ebrill.
Yn ystod cyfnod y Gwyliau Banc gellir cysylltu â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

Swyddfa Gofrestru Blaenau Gwent

Mae amserau agor y Pasg ar gyfer y Swyddfa Gofrestru yn Nhŷ Bedwellte, Tredegar fel sy'n dilyn:
Dydd Gwener 30 Mawrth     Ar gau
Dydd Llun 2 Ebrill               Ar gau
Bydd y Swyddfa Gofrestru yn ailagor am 9.30am ddydd Mawrth 3 Ebrill 2018.

Desg Arian a Thaliadau

Bydd gwasanaethau cwsmeriaid budd-daliadau a'r ddesg arian ar gau ddydd Gwener 20 Mawrth a dydd Llun 2 Ebrill a bydd yn ail-agor am 8.30am dydd Mawrth 3 Ebrill 2018.
Mae'r llinell talu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gwneud taliad rhwng y dyddiau hyn neu gellir gwneud taliadau drwy wefan Blaenau Gwent.

Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd y gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau fel arfer ar wyliau banc dydd Gwener 30 Mawrth a dydd Llun 2 Ebrill 2018.

Bydd gwasanaeth casglu cewynnau a hylendid hefyd yn parhau fel arfer ar Ddydd Gwener y Groglith 30 Mawrth 2018.