Trefniadau Gwasanaeth Gŵyl Faim

Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) ar gau ddydd Llun 28 Awst 2017 a bydd yn ail-agor ddydd Mawrth 29 Awst 2017 am 9am.

Gellir cysylltu â'r gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gwasanaeth larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid gwneud ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at 0845 056 8035.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa'r Tîm Dyletswydd ar gau ar gau ddydd Llun 28 Awst 2017 a bydd yn ail-agor ddydd Mawrth 29 Awst 2017 am 9am.

Yn ystod cyfnod y Gwyliau Banc gellir cysylltu â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

Swyddfa Gofrestru Blaenau Gwent

Bydd y Swyddfa Gofrestru ar gau ddydd Llun 28 Awst 2017.

Gwasanaeth Etholiadol Blaenau Gwent

Bydd Gwasanaethau Etholiadol ar gau ddydd Llun 28 Awst 2017.

Desg Arian a Thaliadau

Bydd gwasanaethau cwsmeriaid budd-daliadau a'r ddesg arian ar gau ddydd Llun 28 Awst 2017 a byddant yn ail-agor ddydd Mawrth 29 Awst 2017 am 8.30am.

Mae'r llinell talu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gwneud taliad rhwng y dyddiau hyn neu gellir gwneud taliadau drwy wefan Blaenau Gwent.

Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd y gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau fel arfer ar ŵyl banc dydd Llun 28 Awst 2017.