Trefniadau Gwasanaeth Gŵyl Banc

Bydd swyddfeydd Cyngor Blaenau Gwent yng Nglynebwy ac Abertyleri ar gau ddydd Llun, 6 Mai 2019.

Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) ar gau ddydd Llun, 6 Mai 2019 a bydd yn ail-agor am 8am ddydd Mawrth 7 Mai 2019. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno adroddiadau, ceisiadau a chynigion i'r Cyngor drwy'r porth cwsmeriaid ar ein gwefan www.blaenau-gwent.gov.uk neu drwy ap symudol Blaenau Gwent sydd ar gael o stôr apiau Apple, Google Play a Windows.

Gellir cysylltu â'r gwasanaeth Argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gwasanaeth Piper Alarm hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa i 0845 056 8035.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa'r Tîm Dyletswydd ar gau ddydd Llun 6 Mai 2019 a bydd yn ail-agor am 9am ddydd Mawrth 7 Mai. Yn ystod cyfnod yr Ŵyl Banc, cysylltwch â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

Swyddfa Gofrestru Blaenau Gwent

Bydd y Swyddfa Gofrestru yn Nhŷ Bedwellte, Tredegar ar gau ddydd Llun 6 Ebrill.

Desg Arian a Thaliadau

Bydd gwasanaethau cwsmeriaid budd-daliadau a'r ddesg arian ar gau ddydd Llun 6 Mai 2019 ac yn ail-agor am 8.30am ddydd Mawrth 7 Mai 2019. Ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gwneud taliad rhwng y dyddiau hyn, mae linell dalu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau ar wefan Blaenau Gwent.

Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd y gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau fel arfer ar Ŵyl Banc ddydd Llun 6 Mai 2019.