Trefniadau Casglu'r Nadolig - Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu Blaenau Gwent

Bydd casgliadau Ailgylchu a Sbwriel dri diwrnod yn hwyr yn ystod cyfnod y Nadolig eleni. Os yw'ch dyddiad casglu arferol ar:

Dydd Llun 24 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Iau 27 Rhagfyr 2018

Dydd Mawrth 25 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Gwener 28 Rhagfyr 2018

Dydd Mercher 26 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Sadwrn 29 Rhagfyr 2018

Dydd Iau 27 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Sadwrn 30 Rhagfyr 2018

Dydd Gwener 28 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Llun 31 Rhagfyr 2018

Bydd casgliadau Ailgylchu a Sbwriel ddau ddiwrnod yn hwyr yn ystod cyfnod y Flwyddyn Newydd. Os yw'ch dyddiad casglu arferol ar:

Dydd Llun 31 Rhagfyr 2018 caiff ei gasglu ar ddydd Mercher 2 Ionawr 2019

Dydd Mawrth 1 Ionawr 2019 caiff ei gasglu ar ddydd Iau 3 Ionawr 2019

Dydd Mercher 2 Ionawr 2019 caiff ei gasglu ar ddydd Gwener 4 Ionawr 2019

Dydd Iau 3 Ionawr 2019 caiff ei casglu ar ddydd Sadwrn 5 Ionawr 2019

Dydd Gwener 4 Ionawr 2019 caiff ei gasglu ar ddydd Sul 6 Ionawr 2019

Bydd pob casgliad yn dychwelyd i'r patrwm arferol o ddydd Llun 7 Ionawr ymlaen.

Gwasanaeth Casglu Cewynnau a Glanweithdra

Caiff sachau Cewynnau a Glanweithdra ei gasglu o du blaen eich eiddo ar:

Dydd Gwener 21 Rhagfyr 2018.

Ni fydd unrhyw gasgliad ddydd Gwener 28 Rhagfyr 2018

Caiff y casgliad Cewynnau a Glanweithdra oedd i ddigwydd ar ddydd Gwener 4 Ionawr 2019 ei gynnal ar ddydd Sul 6 Ionawr 2019.

Bydd casgliadau wythnosol arferol sachau Cewynnau a Glanweithdra yn ailddechrau ddydd Gwener 11 Ionawr 2019.

Ailgylchu eich Coeden Nadolig

Bydd Adran Gwastraff y Cyngor yn darparu gwasanaeth i gasglu ac ailgylchu eich Coeden Nadolig o ddydd Llun 7 Ionawr 2019. Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 i gofrestru eich manylion neu cofrestrwch ar adran Fy Ngwasanaethau Cyngor ar wefan y cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk i gadarnhau diwrnod casglu ar gyfer eich Coeden Nadolig.

Canolfan Gwastraff ac Ailgylchu Domestig, Safle Amwynder Dinesig Cwm Newydd

Bydd Safle Amwynder Dinesig Cwm Newydd ar agor yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd rhwng 10.00am a 4.30pm  [Dydd Llun - Dydd Gwener] a rhwng 8.00am a 4.30pm [Dydd Sadwrn / Dydd Sul] i breswylwyr gael gwared â deunydd gwastraff. Bydd y safle ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan yn unig.

Cyfeiriad: Stad Ddiwydiannol Waun-y-Pound, Glynebwy, NP23 6PL

Gwybodaeth Ychwanegol ar gyfer y Nadolig

•Dim ond cardiau cyfarch plaen y gellir eu hailgylchu, yn anffodus ni fedrir ailgylchu gliter, rhubanau a bathodynnau a bydd yn achosi'r cerdyn i gael ei wrthod.  

•Ni fedrir ailgylchu papur lapio Nadolig, rhowch mewn bag du/bin ar gyfer eich casgliad sbwriel 3 wythnos os gwelwch yn dda. 

•Dylai cardfwrdd ychwanegol gael ei bacio'n wastad a'i roi wrth ymyl eich blychau ailgylchu.

•Gellir casglu eitemau trydanol bach, batris a thecstilau yn wythnosol ar yr un pryd â'ch casgliad ailgylchu rheolaidd. Rhowch eitemau mewn bag a'u rhoi un ai ben neu wrth ochr eich blychau ailgylchu os gwelwch yn dda.

Mae eich ailgylchu yn gwneud  llawer o wahaniaeth - 

Diolch yn fawr