Sefydlu compowndiau safle a mannau gwaith yng ngorsaf Llanhiledd
Fel y gwyddoch efallai, rydym yn gweithio i drawsnewid llinell Glyn Ebwy rhwng Casnewydd a thref Glynebwy. Bydd hyn yn caniatáu i fwy o drenau i deithwyr rhedeg ar hyd y llinell yn y dyfodol.
Sefydlu compowndiau safle
Dros yr wythnosau nesaf, rydym yn bwriadu sefydlu ein compowndiau safle yng ngorsaf Llanhiledd. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys gosod ffensys o amgylch darn o dir i’r gorllewin o faes parcio’r orsaf, yn gyfagos i iard Network Rail, a darn arall o dir gyferbyn ag Ysgol Gynradd St Illtyd/cae rygbi Clwb Rygbi Llanhiledd, yn gyfagos i’r rheilffordd.
Rhwng nawr a mis Hydref, byddwch yn dechrau gweld deunyddiau, peiriannau, cabanau a chyfleusterau lles yn cael eu cludo i’r compowndiau, yn barod ar gyfer y gwaith adeiladu yng ngorsaf Llanhiledd.
Yn ogystal â gosod ffensys o amgylch compowndiau, byddwn hefyd yn dechrau gosod ffensys o amgylch lle gwaith gyferbyn ag Institiwt y Glowyr/Ysgol Gynradd St Illtyd. Hefyd byddwn yn torri llystyfiant yn yr ardal i’r dwyrain o dai Grace Pope Court ac yn gosod ffensys o amgylch lle gwaith.
Rydym yn ymwybodol bod ein gwaith yn agos i eiddo preswyl. Er mwyn lleihau sŵn ac i darfu arnoch cyn lleied â phosibl, byddwn yn defnyddio rhwystrau acwstig o amgylch y generaduron, yn sicrhau bod ein staff ar y safle’n ymddwyn mor ystyriol â phosibl, ac yn gosod colofnau goleuo i ffwrdd o gartrefi.
Rydym hefyd yn bwriadu gweithio yn ystod y dydd cymaint â phosibl rhwng mis Awst a mis Hydref ond hoffem bwysleisio y caiff gwaith ei gyflawni dros nos, gan mai dyna’r amser mwyaf diogel i’n staff weithio. Ymddiheurwn ymlaen llaw os bydd tarfu arnoch yn ystod y gwaith hwn.
Cau lôn ar y ffordd at orsaf Llanhiledd dros dro
Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a’n gweithlu wrth inni weithio yn yr orsaf, rydym yn bwriadu cau un lôn ar y ffordd sy’n arwain at orsaf Llanhiledd a’r llwybr troed priodol o ddydd Mercher 28 Medi 2022 i ddydd Iau 9 Chwefror 2023. Bydd goleuadau traffig dros dro ar waith yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd mynediad i/o blatfform yr orsaf yn parhau ar hyd llwybr troed arall â ramp, ag arwyddion yn ei ddangos. Bydd mynediad hefyd yn parhau i/o faes parcio’r orsaf trwy gydol y cyfnod hwn.
Gwaith mawr - Hydref 2022
Rhwng 22 a 30 Hydref, byddwn yn gweithio’n ddi-baid (24/7) ar linell Glyn Ebwy, gan na fydd trenau’n rhedeg a bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng tref Glyn Ebwy a Chaerdydd Canolog. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein gwaith yng ngorsaf Llanhiledd yn cynnwys:
• Dechrau’r gwaith i ymestyn y platfform presennol;
• Dechrau adeiladu platfform newydd sbon ar ochr arall y trac i’r un presennol;
• Gosod trac newydd sbon wrth ochr y trac presennol;
• Gosod sylfeini ar gyfer pont droed a lifftiau cwbl hygyrch newydd sbon.
Ar ôl mis Hydref, bydd ein gwaith yn parhau yng ngorsaf Llanhiledd hyd ddiwedd haf 2023. Byddwn yn gallu gweithio 24/7 ar ddyddiadau ychwanegol pan fydd llinell Glyn Ebwy ar gau i deithwyr, sy’n cynnwys:
• Dydd Sul 20 Tachwedd 2022
• Dydd Sadwrn 4 a dydd Sul 5 Mawrth 2023
• Dydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Mawrth 2023
• Dydd Sul 23 Ebrill 2023
• Dydd Sul 14 Mai 2023
• Dydd Sul 21 Mai 2023
• Dydd Sadwrn 27 Mai i ddydd Sul 11 Mehefin 2023 (gan gynnwys y dyddiadau hynny)
• Dydd Sul 18 Mehefin 2023
• Dydd Sul 25 Mehefin 2023
• Dydd Sul 2 Gorffennaf 2023
• Dydd Sul 9 Gorffennaf 2023
• Dydd Sul 16 Gorffennaf 2023
Ffoniwch ein Llinell Gymorth Genedlaethol 24 awr ar: 03457 11 41 41 neu ewch i www.networkrail.co.uk/ebbwvale