‘Torri'r Dywarchen'

Cynhaliwyd seremoni draddodiadol 'torri'r dywarchen' yn ystod mis Hydref ar gyfer datblygiad Cam 2 Heol y Coleg ger Llys Glyncoed yng Nglynebwy. Rhoddodd cynrychiolwyr o Gyngor Blaenau Gwent, Morganstone Cyf (Contractwr Adeiladu) a Linc-Cymru y rhawiau cyntaf yn y tir lle codir cartrefi ar gyfer pobl dros 55 oed.

Mae'r cysyniad er mwyn darparu llety sy'n gydnaws â'r cynllun Gofal Ychwanegol presennol gan y bydd cysylltiad agos rhwng 'Cam 2' â Llys Glyncoed. Bydd hyn yn helpu i greu cymuned gryfach sy'n anelu i gefnogi rhyngweithio cymdeithasol rhwng preswylwyr ar draws y safle.

Bydd y safle datblygu yn ymyl Llys Glyncoed yn cynnwys 33 cartref yn cynnwys 6 byngalo un ystafell wely a 27 o fflatiau un ystafell wely ar gyfer pobl dros 55 oed. Bydd gardd gymunol ac ardal barcio hefyd yn rhan o'r cynlluniau cyffredinol.

Dywedodd Keri Harding-Jones, Rheolwr Prosiect Linc Cymru: "Mae Linc wrth ein bodd i gyflwyno'r cynllun hwn i bobl dros 55 mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru. Rydym yn ymroddedig i ddatblygu yn y Fwrdeistref a rydym ar hyn o bryd yn adeiladu cartrefi newydd yn Gwaun Helyg yng Nglynebwy."

Ar hyn o bryd mae prinder byngalos yn y Fwrdeistref, yn bennaf oherwydd y costau adeiladu uchel cysylltiedig (o gymharu â fflatiau a thai) a'u defnydd dwysedd isel o dir. Mae Linc wedi profi fod angen cryf i adeiladu mwy o fyngalos ac maent yn ymroddedig i ddiwallu anghenion pob grŵp defnyddiwr. Mae'r cynllun felly'n cynnwys chwe byngalo fydd yn helpu i ateb y galw.

Morganstone Cyf yw'r prif gontractwr ar gyfer y prosiect a dywedodd Stuart Davies, Cyfarwyddwr Datblyg Adeiladu Morganstone Cyf:

“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Linc a Chyngor Blaenau Gwent i gyflwyno cynllun mor bwysig i gymuned leol Blaenau Gwent. Mae'r cynllun byw â chymorth yn parhau'r berthynas gref rhwng Morganstone Cyf a Linc.”

Roedd y digwyddiad 'Torri'r Dywarchen' ar 5 Hydref yn nodi dechrau swyddogol gwaith adeiladu y safle byw annibynnol ac mae'r gwaith bellach yn mynd rhagddo ar y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Meredith o Gyngor Blaenau Gwent:

“Mae'r digwyddiad hwn yn dangos y cydweithio a ddigwyddodd fel y gall gwaith daear yn awr ddechrau. Rwy'n falch iawn dod ynghyd gyda'n partneriaid agos Morganstone Cyf a Linc-Cymru i nodi'r achlysur, gan wybod y bydd y prosiect yn darparu llety y mae ei fawr angen o fewn Blaenau Gwent.”