Thales i sefydlu canolfan ymchwil diogelwch seibr yng Nglynebwy

Mae Thales yn bwriadu sefydlu canolfan rhagoriaeth newydd ar gyfer diogelwch digidol a seibr yn y Gweithfeydd yng Nglynebwy, a fyddai'n fan profi ac arloesi mewn diogelwch seibr.

Bydd Thales yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol De Cymru i sefydlu canolfan fyddai'n gweithredu fel catalydd ar gyfer hyfforddiant addysgol ac ymchwil digidol a seibr.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Gallai'r ganolfan yng Nglynebwy helpu i sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd byd-eang ym maes trawsnewid digidol ac yn rhoi i’n busnesau y sgiliau a’r wybodaeth y mae arnynt eu hangen er mwyn ennill cyfran fwy o brosiectau rhanbarthol a chenedlaethol mawr."

Yn ganolog i brosiect Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, byddai  ffocws canolfan Thales ar systemau i ddiogelu gorsafoedd pŵer a rheilffyrdd, dŵr, telathrebu a rheoli traffig awyr. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn y gwanwyn, gyda'r ganolfan yn llwyr weithredol erbyn 2021.

Dywedodd Nigel Daniels, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent,

“Rydym wedi gweithio'n galed i ddenu buddsoddiad busnes i Flaenau Gwent ac rwy'n falch iawn i groesawu Thales, sefydliad byd-eang, i Lynebwy. Rwy'n sicr y byddant yn rhoi canolfan ar gyfer ymchwil fydd yn torri tir newydd ac rwy'n hyderus y byddant yn sicrhau cyflogaeth mewn busnes gwerth uchel. Bydd Thales yn ein gosod wrth ganol ymchwil technoleg ddigidol a seibr a bydd ganddo hefyd rôl allweddol yn adfywiad yr ardal.” 

Dywedodd y Cyng David Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd,

“Rwy'n falch iawn fod Thales, cwmni technoleg mawr, yn sefydlu canolfan ymchwil a datblygu yng Nglynebwy. Bydd y cyfuniad o ymchwil, addysg graddedigion a thechnoleg yn sicrhau fod ein hadfywiad economaidd yn datblygu ar y lefel uchaf. Bydd hyn yn dda i economi Cymru a chymunedau lleol a hefyd yn gosod Blaenau Gwent ar y map fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer arloesedd seibr".

Dywedodd Gareth Williams, Is Lywydd, Cyfathrebu Diogel a Systemau Gwybodaeth, Thales:

"Rydyn ni'n hynod falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Prifysgol De Cymru a Chyngor Blaenau Gwent er mwyn datblygu a chyflwyno'r NEDC. Bydd yn gonglfaen i'n galluoedd seibr ddiogelwch ni yn y Deyrnas Unedig, gan ddarparu safle profi ar gyfer ein technoleg, yn ogystal â  bod yn gatalydd ar gyfer adfywiad yn y rhanbarth.

"Bydd y cyfleuster hynod dechnegol a hygyrch yma'n ganolfan datblygiad ac addysg seibr a digidol, ac yn gyswllt rhwng De Cymru a chanolfannau technoleg mawr ar draws y Deyrnas Unedig".