Taylor Lane

Bydd adeiladu tai yn Ne Cymru yn dod yn gyflymach ac yn fwy effeithiol gydag agor busnes ffrâm bren newydd yn Nantyglo, Blaenau Gwent. Bydd Taylor Lane (Wales) Cyf yn cynhyrchu fframiau pren ar gyfer datblygiadau adeiladu newydd ar draws y rhanbarth. Wedi'i sefydlu ym mis Tachwedd 2018, cafodd y ffatri a'r swyddfeydd eu hagor yn swyddogol gan Brynmor Williams, cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a'r Llewod Prydeinig ar 13 Chwefror.

Mae'r busnes newydd wedi darparu cyflogaeth ar unwaith i weithwyr lleol medrus. Ar ôl prynu'r safle ar Heol Carreg Galch mae Taylor Lane (Wales) yn ymroddedig i'r ardal. Gyda dros 30,000 tr. sg. o gyfleusterau gweithgynhyrchu, bydd y cwmni yn darparu datrysiadau ffrâm bren ar gyfer contractwyr, datblygwyr a hunan-adeiladwyr, ac yn cynnig cynnyrch a gwasanaethau ategol yn cynnwys dylunio, amcangyfrif a rheoli prosiect.

Fel busnes annibynnol, mae Taylor Lane (Cymru) yn her newydd i'r rheolwyr gyfarwyddwyr, Barrie Lane a Colin Taylor. "Gwelsom gyfle i sefydlu busnes newydd ac roedd Cymru'n gwneud synnwyr economaidd fel lleoliad a hefyd fel sylfaen cyflogaeth," meddai Barrie Lane, rheolwr gyfarwyddwr Taylor Lane (Wales). "Rydym eisoes wedi cael cefnogaeth ac anogaeth wych gan y Cyngor ac arweinwyr busnes lleol. Edrychwn ymlaen at ymestyn y safle a gwasanaethau Taylor Lane (Cymru) wrth i Lywodraeth Cymru ymrwymo cyllid i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros y pedair blynedd nesaf."

Yn y lansiad diolchwyd i'r rhai oedd wedi cynorthwyo a chefnogi'r fenter newydd. Croesawodd Taylor Lane (Cymru) Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Adfywio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd David Davies a'r Dirprwy Arweinydd - y Cynghorydd Garth Collier, aelodau o dîm amgylchedd ac adfywio y Cyngor sef Richard Crook y Cyfarwyddwr ac Ellie Fry; Pennaeth Adfywio; y Cynghorydd Wayne Hodgins; cynrychiolwyr o'r Thomas Carroll Group a'r NatWest. Cafodd ymwelwyr eu cyfarch gyda lluniaeth cyn cyflwyniad a thaith o amgylch y ffatri.

Dywedodd y Cynghorydd David Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:

"Rydym yn falch iawn fod Taylor Lane wedi dewis Nantyglo ar gyfer busnes ffrâm bren newydd. Bydd hwn yn hwb ychwanegol i'r diwydiant adeiladu yn ein hardal, yn arbennig gan fod Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i adeiladu cartrefi fforddiadwy ledled Blaenau Gwent. Mae adeiladu tai ffrâm bren yn cynnig llawer o fanteision, maent yn gyflymach i'w hadeiladu nag adeiladau traddodiadol ac mae ganddynt lawer o fanteision amgylcheddol".