Cymdeithas Tai ym Mlaenau Gwent wedi sicrhau ail-gyllido dyled hirdymor o £105 miliwn gyda Grŵp Natwest
Mewn symudiad sy’n torri tir newydd ac yn argoeli trawsnewid tirwedd tai fforddiadwy ym Mlaenau Gwent mae Cartrefi Cymunedol Tai Calon, darparydd mwyaf cartrefi yn yr ardal, wedi sicrhau carreg filltir ryfeddol. Mae’r sefydliad wedi cwblhau partneriaeth aillgyllido dyled hirdymor £105 miliwn gyda Grŵp NatWest. Mae’r cytundeb blaengar hwn, a gwblhawyd ddydd Gwener 28 Gorffennaf 2023, yn cyflwyno oes newydd o dwf a chynnydd ar gyfer Tai Calon a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Mae’r cytundeb ailgyllido hefyd yn galluogi Tai Calon i gael mynediad i lefel o hyblygrwydd cyllid a gysylltir fel arfer gyda chymdeithasau tai sy’n datblygu. Hyd yma, dim ond mewn un cynllun bach Tai yn Gyntaf y mentrodd y sefydliad ac mae’n datblygu prosiect bach o dai yng Nglynebwy. Gyda chefnogaeth Grŵp NatWest, gall Tai Calon yn awr ddechrau ar raglen ddatblygu lawn i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer pobl mewn angen ar draws sir Blaenau Gwent.
Mynegodd Howard Toplis, Prif Weithredwr Tai Caloin, ei frwdfrydedd am y bartneriaeth bwysig yma: “Gyda chefnogaeth Grŵp NatWest, gallwn yn awr ddechrau ar raglen i ddatblygu cartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer pobl mewn angen yn sir Blaenau Gwent. Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau ein cymunedau a mynd i’r afael â’r galw mawr am gartrefi ansawdd da a fforddiadwy.”
Er fod datblygu wrth galon cenhadaeth Tai Calon, dim ond un rhan o dair amcan allweddol y sefydliad yw hynny. Dywedodd Howard Toplis, “Dim ond un rhan o dair amcan allweddol cenhadaeth Tai Calon yw datblygu. Y ddwy arall yw lefel o dros 90% ym modlonrwydd cleientiaid a gostwng costau ynni cartrefi presennol er budd ein cwsmeriaid a’r blaned. Gyda’r ailgyllido hwn, rydym yn gwthio ymlaen ar bob un o’r tair amcan.”
Cafodd y cynllun ailgyllido ei groesawu’n gynnes gan Dharmesh Patel, Cyfarwyddwr Cyswllt Grŵp NatWest a ddywedodd, “Rydym yn wirioneddol falch i gefnogi Tai Calon ac yn croesawu’r effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol a gaiff ein cyllid ar gyfer cymunedau ym Mlaenau Gwent. Mae’r cydweithio hwn yn enghraifft o ymrwymiad Grŵp NatWest i gefnogi cynlluniau sy’n cael effaith barhaus ar gymunedau.”
Roedd taith Tai Calon tuag at sicrhau’r garreg filltir aillgyllido sylweddol hon yn bosibl oherwydd arbenigedd ac arweiniad gwerthfawr eu cynghorwyr cyllido, ZTix Cyf, a’r cyngor cyfreithol neilltuol a ddarparwyd gan Clarke Willmott.
Mae’r bartneriaeth ailgyllido dyled hirdymor £105 miliwn lwyddiannus gyda Grŵp NatWest yn nodi trobwynt sylweddol i Tai Calon. Gyda mwy o hyblygrwydd cyllido, mae Tai Calon yn awr yn barod i sicrhau dyfodol mwy disglair ar gyfer tai fforddiadwy ym Mlaenau Gwent.