Stryd yng Nglynebwy yn cael ei henwi ar ôl gweithiwr dur 'ysbrydoledig' a gollodd ei freichiau mewn damwain dros 100 mlynedd yn ôl

Bydd ffordd yng Nglynebwy yn cael ei henwi'n swyddogol ar ôl gweithiwr dur a oresgynnodd adfyd a dod yn adnabyddus yn lleol ar ôl colli ei ddwy fraich mewn damwain yn y gwaith brics yn ddim ond 14 oed.

Dadorchuddiwyd arwyddion ffyrdd newydd heddiw i enwi 'Ffordd Billy Collins’ yn swyddogol, y tu cefn i’r Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy.

Datgelwyd stori Billy gan fyfyriwr Ôl-16 yn Ysgol Pen-y-Cwm, Ciaran Mitchel-Neal, pan ddechreuodd brofiad gwaith gydag Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy yn y Swyddfeydd Cyffredinol. Cafodd Ciaran ei ysbrydoli gan Billy a wnaeth, er gwaethaf y ddamwain a newidiodd ei fywyd, enw iddo'i hun ar lwyfan y Neuadd Gerdd, gan berfformio gweithgareddau 'bob dydd' dan yr enw 'Billy the Armless Wonder'. Gallai Billy gau botymau ei grys gyda bysedd ei draed, chwarae’r piano gyda'i drwyn a pheintio gan ddal brwsh yn ei geg!

Roedd Billy yn benderfynol o gefnogi pobl mewn adfyd a oedd wedi dioddef anableddau tebyg i'w rai ef, a rhoddodd ei amser i ysgrifennu at a chefnogi llawer o bobl, o filwyr clwyfedig yn dychwelyd o ryfel i ddioddefwyr thalidomide. Roedd hefyd yn helpu i godi arian i elusennau.

Yn dilyn y ddamwain, parhaodd i weithio yn y gwaith dur fel Clerc. Bu farw yn 1969, yn 67 oed.

Aeth Ciaran ymlaen i wneud ffilm ac arddangosfa am Billy a'i ddymuniad oedd cael cofeb barhaol i'r dyn rhyfeddol hwn a oresgynnodd gymaint yn ei fywyd ac a aeth ymlaen i fod yn esiampl ysbrydoledig i'r gymuned leol a thu hwnt, yn enwedig y rhai sy'n wynebu adfyd.

Heddiw, cyflawnodd ei nod gydag enwi'r stryd.

Meddai Ciaran:

"Pan ddechreuais i'r prosiect hwn, doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn mynd i fod mor fawr â hyn, felly hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Blaenau Gwent, teulu Billy Collins a phawb a helpodd o’m hysgol a'r amgueddfa."

Dywedodd y Cyng Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Bobl ac Addysg:

"Mae'n dda cofio'r bobl hynny sy'n cyflawni llawer yn wyneb adfyd. Pobl sydd â chalon garedig a hael ac ewyllys i oresgyn y rhwystrau sy'n cael eu rhoi o'u blaenau. Yn anad dim, i gefnogi'r rhai sy'n wynebu anawsterau yn eu bywyd bob dydd sy'n ymddangos fel mynyddoedd.

"Rydym yn ddiolchgar i Ciaran am fynd ar drywydd stori Billy gydag ymchwil ymroddedig a dyfalbarhad ac mae Cyngor Blaenau Gwent yn falch o'i gofio trwy enwi'r ffordd hon er cof amdano. Rwy'n siŵr bod ei deulu yn ddiolchgar iawn am dy ymdrechion. Gobeithio y bydd pawb sy'n gyrru neu gerdded ar hyd y ffordd yn dysgu am ei gyflawniadau rhyfeddol ac yn cael eu hysbrydoli."

Mwy am Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy yma.