Sioeau Teithio Gwastraff Ochr - rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi mabwysiadu 'Polisi Dim Gwastraff Ochr' er mwyn cyrraedd targedau statudol llym Llywodraeth Cymru ar ailgylchu. Cyflwynwyd y polisi mewn rhannau o Lynebwy yn ystod mis Mehefin. Mae'r canlyniadau dechreuol yn addawol a chasglodd y Cyngor bron 20% yn llai o wastraff bag du yn yr ardal hon na chyn cychwyn ar y polisi newydd.

Ar ôl y cyfnod prawf llwyddiannus, mae cynlluniau bellach yn eu lle i ymestyn y 'polisi dim gwastraff ochr' i rannau eraill o Flaenau Gwent. Bydd 'Sioeau Teithio Ymgysylltu Gwastraff Ochr' yn ymweld â'r lleoliadau a restrir islaw, felly cadwch olwg am y digwyddiadau defnyddiol yma.

Lleoliad

Dyddiad

Amser

Brynmawr - Canol y Dref
Dydd Mawrth 25 Medi 2018
10am – 1pm
Marchnad Abertyleri
Dydd Iau 27 Medi 2018
10am – 1pm
Glynebwy - Tesco
Dydd Iau 27 Medi 2018
4pm – 6pm
Blaenau - ochr Capel Salom
Dydd Llun 1 Hydref 2018
9am – 12pm
Tredegar - Canol y Dref
Dydd Mawrth 2 Hydref 2018
1pm – 4pm
Glynebwy - Marchnad
Dydd Gwener 5 Hydref 2018
10am – 1pm
Brynmawr - Asda
Dydd Gwener 5 Hydref 2018
4pm – 6pm

Bydd swyddogion y Cyngor ac aelodau ar gael i sgwrsio gyda pholisi am y polisi 'Dim Gwastraff Ochr;' a gyflwynwyd ym mhob rhan o Flaenau Gwent erbyn hyn. Nod y polisi yw gostwng faint o wastraff mae pobl yn ei roi allan i'w gasglu ac yn hytrach eu hannog i ailgylchu mwy, gan na chaiff bagiau ychwanegol a adewir wrth ochr eich bin (gwastraff ochr) eu casglu o hyn ymlaen.


Dangosodd ymchwil hefyd y gellir ailgylchu 70% o wastraff bagiau du. Gellir casglu'r rhan fwyaf o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu fel bwyd, tecstilau, gwydr, caniau, papur, plastig a chardfwrdd o dŷ i dŷ fel rhan o wasanaeth casglu wythnosol y Cyngor fu yn ei le ers nifer o flynyddoedd.

Mae'r rhaglen ymgysylltu yn parhau ag ymrwymiad Cyngor Blaenau Gwent i fod yn fwy rhagweithiol wrth ymgysylltu gyda phobl leol am benderfyniadau am ddarpariaeth gwasanaethau. Cynigir help a chyngor i bobl yn y sioeau teithio am yr hyn y gellir ei ailgylchu a'r offer i'w galluogi i gymryd rhan yn y gwasanaeth wythnosol o dŷ i dŷ megis cynwysyddion ailgylchu ychwanegol neu gymorth casglu ar gyfer pobl anabl ac oedrannus.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae'n rhaid i ni barhau i ailgylchu gymaint ag sydd modd er mwyn cyflawni'r targedau heriol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch i bobl leol a wnaeth bob ymdrech i ailgylchu eu gwastraff ond mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y bobl hynny sy'n dal heb ymateb i'r newidiadau mewn ailgylchu sydd eu hangen i gyrraedd ein targedau. Bydd gorfodi Dim Gwastraff ochr yn cynyddu faint o wastraff ailgylchu a gasglwn ac yn helpu i ostwng faint o wastraff a anfonwn i domen lanw”.