Sioeau Teithio Cymunedol - Polisi Dim Gwastraff Ochr

O 11 Mehefin 2018 ni chaiff unrhyw wastraff ochr dros ben ei gasglu gan gartrefi Blaenau Gwent. Dim ond gwastraff wedi ei roi mewn bil olwyn ar y palmant y bydd criwiau casglu yn ei gasglu. Ni chaiff bagiau ychwanegol neu eitemau a roddir ar dop neu'n ymyl bin olwyn eu casglu. Ni chaniateir mwy na 4 bag du ar gyfer aelwydydd heb fin olwyn.

Gall y rhan fwyaf o'r hyn a gaiff ei daflu o gartrefi gael ei roi allan ar gyfer casgliadau ailgylchu wythnosol. Mae Blaenau Gwent wedi gwneud cynnydd ond rydym yn dal heb gyflawni'r targedau ailgylchu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a gallai hyn arwain at osod dirwyon.
Fodd bynnag, mae gennym ddata ar gynnwys biniau olwyn a chaiff llawer o ddeunyddiau y gellid eu hailgylchu, yn arbennig bwyd, eu taflu fel sbwriel. Y nod yw cael deunydd y gellid ei ailgylchu allan o'r biniau olwyn ac i'r casgliadau ailgylchu wythnosol.

Bydd Wardeiniaid Gwastraff y Cyngor yn monitro casgliadau yn cadw golwg ar gasgliadau ac yn hysbysu preswylwyr sut y gallant ailgylchu mwy, a gostwng faint o wastraff a roddir allan i'w daflu. Bydd y Cyngor yn cymryd camau gorfodaeth os yw popeth arall yn methu lle mae preswylwyr yn gyson yn rhoi gormod o sbwriel allan a heb gymryd cyngor ar ailgylchu. Gallai hyn arwain yn y pen draw at ddirwy o £100.
Mae'r rhaglen ymgysylltu sioeau teithio yn cychwyn ar 16 Ebrill a dangosir y calendr llawn o ddigwyddiadau islaw:


16 Ebrill 2018 Tredegar, Lidl 4pm - 6pm
17 Ebrill 2018 Blaenau (Capel Salem) 10am – 1pm
18 Ebrill 2018 Glynebwy, Morrisons  4pm – 6pm
19 Ebrill 2018 Marchnad Abertyleri 10am – 1pm
19 Ebrill 2018 Sgwâr Brynmawr  2.30pm – 4.30pm
20 Ebrill 2018 Marchnad Glynebwy 10am – 1pm
20 Ebrill 2018 Abertyleri, Tesco 4pm – 6pm
24 Ebrill 2018 Tredegar, Lidl 4pm – 6pm
25 Ebrill 2018 Brynmawr, Asda 10am – 1pm
2 Mai 2018 Canol tref Tredegar  10am – 1pm
3 Mai 2018 Marchnad Abertyleri 10am – 1pm
3 Mai 2018 Brynmawr, Asda  4pm – 6pm
4 Mai 2018 Marchnad Glynebwy 10am – 1pm
4 Mai 2018 Abertyleri, Tesco 5pm – 7pm
8 Mai 2018 Sgwâr Brynmawr  10am – 1pm
9 Mai 2018 Glynebwy, Morrisons 10am – 1pm
10 Mai 2018 Marchnad Abertyleri 10am – 1pm
11 Mai 2018 Marchnad Glynebwy 10am – 1pm
11 Mai 2018 Canol tref Tredegar  2pm – 4pm
12 Mai 2018 Marchnad Brynmawr 9am – 12 canol-dydd


Mae'r rhaglen ymgysylltu yn parhau â'r ymrwymiad i fod yn fwy rhagweithiol wrth ymgysylltu â phobl leol am benderfyniadau a wneir am ddarparu gwasanaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

"Hoffwn ddiolch i'r bobl leol sy'n gwneud pob ymdrech i ailgylchu eu gwastraff bob wythnos. Fodd bynnag, rydym yn dal i beidio cyflawni'r targedau ailgylchu heriol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae llawer o le i wella a gyda'r newidiadau hyn rydym yn targedu'r bobl hynny nad ydynt yn gwneud yr ymdrech i ailgylchu. Rydym eisiau i bawb ailgylchu cymaint ag y gallant a bydd ein wardeiniaid yn ymweld â phob ardal i roi help a chyngor fel y gall preswylwyr ostwng faint o wastraff a roddir i'w gasglu yn eu biniau olwyn."

I weld yr wybodaeth a'r arolwg ar-lein ewch i www.blaenau-gwent.gov.uk a dilyn y ddolen o'r dudalen gartref. Bydd yr arolwg ar gael o 13 Ebrill 2018.