Sicrhau noson Sant Ffolant i'w chofio am y rhesymau cywir drwy ddewis yn ddoeth

Mae cynllunio'r noson berffaith yn ddigon o waith heb orfod poeni pa mor lân a hylan yw cegin y bwyty yr ydych chi'n bwriadu ei drefnu. Efallai eich bod chi wedi darllen adolygiadau gwych ar-lein neu fod ffrind wedi argymell rhywle, ond cofiwch edrych ar y sgôr hylendid bwyd cyn bwyta allan.
Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos sgôr sy'n seiliedig ar eu safonau hylendid. Mae'r sgôr yn cael ei dyfarnu yn dilyn arolygiad gan Gyngor XX. Mae busnesau yn yr ardal yn cael eu sgorio o '0', sy'n golygu bod 'angen gwella ar frys' i'r sgôr uchaf o 5, sy'n adlewyrchu safonau ‘da iawn’.

Felly p'un a ydych chi'n mynd amdani go iawn ac yn trefnu bwrdd yn y bwyty gorau o gwmpas, neu'n bwriadu archebu pryd tecawê rhamantus i'w fwynhau gartref, cofiwch edrych ar y sgôr hylendid gyntaf.
Cofiwch gadw llygad am y sticer du a gwyrdd yn y ffenest neu ar y drws. Mae logo Llywodraeth Cymru arno ac mae'n nodi'r Sgôr Hylendid Bwyd. Os nad ydych chi'n gallu gweld y sticer, ewch ati i holi aelod o staff neu gallwch chwilio ar-lein drwy: www.food.gov.uk/sgoriau. Os na allwch chi gael gwybodaeth am Sgôr Hylendid Bwyd busnes,dylech chi gysylltu â'ch awdurdod lleol.

Mae'n rhaid i fusnesau tecawê hefyd ddarparu gwybodaeth am sut i ddod o hyd i'w Sgôr Hylendid Bwyd ar eu taflenni/bwydlenni.


Meddai Richard Bowen, Cyfarwyddwr Dros Dro’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: “Nid yw awyrgylch rhamantus neu wefan bwyty yn rhoi gwybod i chi sut siâp sydd ar ei safonau hylendid bwyd. Ond mae'r Sgôr Hylendid Bwyd yn rhoi syniad i chi o beth sy'n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig y gegin, felly dylech chi ystyried hynny wrth benderfynu ble i fwyta ar Ddiwrnod Sant Ffolant.”
Cofiwch wneud yn siŵr eich bod wedi ystyried popeth eleni, gan gynnwys y Sgôr Hylendid Bwyd, er mwyn sicrhau mai rhamant, ac nid hylendid gwael, sy'n ennill y dydd.