Seremoni Wobrwyo i Ddathlu Pobl Ifanc Blaenau Gwent

Caiff talent ac ymroddiad pobl ifanc Blaenau Gwent ei ddathlu mewn seremoni wobrwyo yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd ar 29 Mehefin 2017.

Refnir y digwyddiad gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent a’i gefnogi gan Brosiect Anelu’n Uchel. Caiff hefyd ei ran-ariannu a’i gefnogi gan Cartrefi Cymunedol Tai Calon.

Bydd Sam Cross, o Dim Rygbi 7 Cymru ac enillydd medal Olympaidd, hefyd yn bresennol ac yn cyflwyno rhai o'r gwobrau yn ystod y noswaith.

Dywedodd Jo Sims, Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent:

"Rydym yn edrych ymlaen am noson lwyddiannus lle gallwn gydnabod a dathlu llwyddiannau'r bobl ifanc sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Ieuenctid. Diolch hefyd i'n gwestai arbennig Sam Cross am neilltuo amser i ddod draw i gyflwyno'r gwobrau a chwrdd â'r bobl ifanc."