Sadwrn Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent

Mae mentrau cymdeithasol yr un fath ag unrhyw fusnes arall ond yr hyn a wnânt gyda'u helw sy'n eu gwneud yn wahanol. Caiff yr arian a wneir gan fentrau cymdeithasol ei ailfuddsoddi neu ei gyfrannu i gefnogi materion cymdeithasol ac amgylcheddol, o greu cyfleoedd swyddi i helpu i ostwng tlodi.

Mae Canolfan Addysg Eden yn un o'r 1,600 o fentrau cymdeithasol yng Nghymru sy'n defnyddio eu helw ar gyfer diben cymdeithasol. Fel yr unig Stiwdio Arloesedd Addysg LEGO a adeiladwyd yn bwrpasol yn Ne Cymru, mae Canolfan Addysg Eden yn darparu gweithdai ar gyfer ysgolion sy'n canolbwyntio ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.

Bydd y Ganolfan Addysg yn lansio ystafell argraffu 3D newydd yn y dyfodol agos. Dywedodd Adele Jones, Rheolwr Canolfan Addysg Eden: 'Bydd yr adnodd ar gael ar gyfer dosbarthiadau i gymryd rhan mewn gweithdai i ddangos iddynt sut mae argraffu 3D yn gweithio, ei berthnasedd i ddiwydiant heddiw a gallant hwythau roi cynnig ar greu rhywbeth a argraffwyd gyda 3D. Mae'r cyfleuster yn ysbrydoli ac yn annog myfyrwyr i sicrhau fod eu haddysg yn berthnasol ar gyfer y dyfodol a'u hannog i ymdrechu am yrfaoedd mewn swyddi technoleg uchel.

Mae'r ganolfan wedi cofrestru fel elusen a chaiff yr holl elw ei ail-fuddsoddi yn y ganolfan i roi cefnogaeth bellach i fyfyrwyr mewn cymunedau cyfagos i GREU, YMRWYMO a chael eu HYSBRYDOLI.'

Bydd Sefydliad Glynebwy yn dechrau'r dathliadau ar y nos Wener gyda Gwneud Sŵn Cymru 2017. Mae'r digwyddiad yn dathlu ailgylchu drwy gerddoriaeth. Sweet Baboo fydd y gwestai arbennig gyda chefnogaeth gan Heavenly's H, Hawkline a Boy Azooga, un o grwpiau newydd mwyaf cyffrous Cymru. Bydd The Heavenly Jukebox hefyd yn rhoi'r parti hwyr y nos, yn troelli recordiau.

Mae maniffesto Gwneud Sŵn yn darparu digwyddiadau cerddoriaeth cyffrous a blaengar, 100% AM DDIM yn gyfnewid am ddarn o ailgylchu trydanol. Mae angen i chi roi rhywbeth wrth y drws - ffôn symudol, sychwr gwallt neu liniadur wedi torri - unrhyw beth gyda phlwg neu fatri! Ers iddo ddechrau, mae Gwneud Sŵn wedi llenwi neuaddau ym mhob rhan o Brydain ac wedi ailgylchu tunelli o wastraff electronig.

Mae Tŷ Ebwy Fach yng ngwaelod y cwm yn Six Bells a chaiff ei redeg gan fenter gymdeithasol Adfywio Six Bells. Bydd yr adeilad ar agor rhwng 10.00 a 3.00 ar Sadwrn Cymdeithasol ar gyfer diwrnod o weithgareddau. Bydd arddangosfa ac arddangosiad o'r hyn a gyflawnodd Adfywio Six Bells hyd yma gall ymwelwyr gael taith tu ôl i'r llenni o'r adeilad i weld y gofod swyddfa a chyfleusterau cynhadledd a chyfarfodydd sydd ar gael. Bydd yr Ystafell Treftadaeth ar agor i ymchwilio hanes y pentref a'r golled ofnadwy o fywyd yn y danchwa danddaear ddychrynllyd. Bydd y caffe ar agor a bydd Meg Gurney, Cyfarwyddwr Adfywio Six Bells, yn mynd â theithiau am ddim i weld The Guardian, cofeb lofaol Six Bells. Dywedodd Hywel Clatworthy, Cyfarwyddwr Adfywio Six Bells: 'Mae pobl leol yn gwybod am yr hyn a wnawn yma yn Nhŷ Ebwy Fach ond mae Sadwrn Cymdeithasol yn rhoi cyfle gwych i ddweud ein stori wrth bawb a dangos iddynt beth sydd ar gael yma.'

Theatr Beaufort yw menter gymdeithasol newyddaf Blaenau Gwent gyda'u cynnig wedi'i adeiladu o amgylch 3 elfen cerddoriaeth, dawns a bwyd. Mae Theatr Beaufort yn cynnig gofod ar gyfer dosbarthiadau, perfformiadau, cyfarfodydd a digwyddiadau arbennig yng nghanol y gymuned. Mae gan y theatr gaffe bar sy'n cynnig bwyd a diod arddechog, gan ddarparu ar gyfer pob dant yn cynnwys fegan ac alergenau. Maent hefyd yn cefnogi cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol gydag amrywiaeth o fêl lleol, cardiau a matiau diod ar werth. Dywedodd Sue Lewis, Cyfarwyddwr Artistig 'Ar Sadwrn Cymdeithasol rydym yn diolch i'r gymuned drwy gynnig 2 am 1 ar bob pryd a weinir yn ein caffe. Bu llawer i ddysgu wrth redeg Theatr a Dawnsfa Beaufort ac ni fyddem yn gallu gadw'r drysau ar agor heb gefnogaeth sefydliadau lleol a'n cymuned. Mae gennym lawer o syniadau newydd ar gyfer y dyfodol a gobeithiaf y gallwn barhau i roi sylfaen ddiwylliannol yn yr ardal.'

Mae'r sector hamdden a gweithgareddau hefyd yn dangos busnesau mentrau cymdeithasol sylweddol ym Mlaenau Gwent. Sefydlwyd Clwb Golff Gorllewin Mynwy 111 mlynedd yn ôl a chaiff y clwb aelodau ei gydnabod yn swyddogol gan y Guinness Book of Records fel yr 'uchaf' ym Mhrydain. Y 14eg tî yw pwynt uchaf y cwrs ar dros 1500 troedfedd. Bydd y clwb yn cynnal Sadwrn Cofrestru i ddathlu Sadwrn Cymdeithasol gydag enwau aelodau'n cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth tynnu enw o'r het. Dywedodd Karl Offers, ysgrifennydd y Clwb: 'Rydym yn ymfalchïo yn ein clwb fel bod yn lle cyfeillgar i chwarae golff. Cafodd y cwrs ei gynllunio gan Ben Sayer ac mae hyn ynghyd â'r tywydd lleol, yn rhoi prawf heriol o golf.'

Mae Breaking Barriers yn seiliedig yn Sefydliad Llanhiledd (sydd hefyd yn fenter gymdeithasol) ac yn fusnes celfyddydau cymunedol yn arbenigo mewn dweud straeon digidol. Meddai Natasha James, Rheolwr ac Ymarferydd Celfyddydau Digidol, 'Mae'n stori yn bendant iawn am alluogi eraill i ddweud eu stori. Rydym yn ddiweddar wedi helpu mentrau cymdeithasol eraill fel Gofal a Thrwsio a llyfrgelloedd Merthyr gyda ffilmiau dathlu'.

https://vimeo.com/breakingbarriers/journeytotheafterlife
https://www.youtube.com/watch?v=yU3rd8K2yaI

Caiff yr holl ddigwyddiadau ym Mlaenau Gwent eu hyrwyddo gan BRfm, ein menter gymdeithasol leol ein hunain. Caiff yr orsaf ei rhedeg yn llwyr gan wirfoddolwyr a dechreuodd ddarlledu yn 2007 a buont yn diddanu a rhoi gwybodaeth i bobl Cymoedd Ebwy byth ers hynny.

Mae mentrau cymdeithasol eraill ym Mlaenau Gwent yn cynnwys Gymfinity, EBO Quality Signs a Aneurin Leisure sy'n rheoli Parc Bryn Bach a Thŷ a Pharc Bedwellte, Y Metropole, 3 Canolfan Chwaraeon ynghyd â Llyfrgelloedd a Chanolfannau Dysgu Gweithredol lleol.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent:

'Mae mentrau cymdeithasol yn rhan arbennig iawn o'r economi ym Mlaenau Gwent. Rydym yn neilltuol o ffodus yn y sectorau creadigol a thwristiaeth gyda theatrau a safleoedd celf, gorsafoedd radio, canolfannau cynhadledd a safleoedd treftadaeth. Mae ganddynt i gyd ran bwysig yng ngweithgareddau diwylliannol ein cymuned.'

I GAEL MWY O WYBODAETH CYSYLLTWCH Â:
Alyson Tippings 01495 355937 / 07968 472812, alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk

Sarah Jeremiah, 01495 353328, sarah.jeremiah@blaenau-gwent.gov.uk

Adele Jones, Rheolwr Canolfan, Canolfan Addysg Eden, Uned 6, Stad Ddiwydiannol Glandŵr, Aber-big, Blaenau Gwent, NP13 2LN. 01495 212722 / 07968 582480, info@edeneducationcentre.org. twitter @EdenEdCentre www.edeneducationcentre.org

Clwb Golff Gorllewin Mynwy 01495 310233

Tŷ Ebwy Fach 01495 211732, sixbellsregen@gmail.com

EVI 01495 708022

Swyddfa BRfm: 01495 311211. Stiwdio: 01495 313003 – Steven Bower

Aneurin Leisure – 01495 355959

Theatr Beaufort 07854 910926

Breaking Barriers . 01495 420488 symudol 07860266750  www.breakingbarriers.org.uk – Natasha James

Gwybodaeth
Sefydlwyd y Sadwrn Cymdeithasol yng Nghymru yn 2013 gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.  Caiff yn awr ei redeg gan y Ganolfan drwy brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dywedodd Nicola Mehegan, rheolwr prosiect Busnes Cymdeithasol Cymru: "Mae dros 1,600 o fusnesau cymdeithasol yng Nghymru, felly pe byddai pob un ohonynt yn dod ynghyd ar Sadwrn Cymdeithasol, gallwn gael effaith enfawr ar y ddealltwriaeth o'u gwaith gwych i'r economi a hefyd gymunedau lleol.

"Nid yw'n rhaid i gymryd rhan yn y Sadwrn Cymdeithasol fod yn straen mawr ar adnoddau; rydym eisiau ei gwneud mor rhwydd ag sydd modd i fusnesau cymdeithasol o bob maint  gymryd rhan yn unrhyw ffordd y medrant, gyda llawer o awgrymiadau ac offer defnyddiol ar y wefan.

"Nid yw'n rhaid i chi fod yn fusnes cymdeithasol i gefnogi'r ymgyrch chwaith. Gall cwsmeriaid fwynhau diwrnod allan yn eu mannau bwyta lleol, siopau, sinemâu, cyfleusterau hamdden a mwy. Neu os ydych yn fusnes sy'n cael cyflenwadau gan fenter gymdeithasol, pam na wnewch sôn pa mor wych yw hi i weithio gyda nhw?"