Rownd newydd wedi agor ar gyfer Cynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter Cymru

Mae rownd Cynllun Ardrethi Busnes yr Ardaloedd Menter wedi agor ar gyfer busnesau yn wyth Ardal Fenter Cymru all gynnig arbedion sylweddol i filiau ardrethi blynyddol 2016-17.
 
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar fentrau bach a chanolig sy’n tyfu, busnesau nwydd neu fusnesau sy’n cynyddu maint eu gweithlu.
 
Rhoddir ystyriaeth hefyd i weithgareddau busnes eraill sy’n ymwneud â sectorau penodol, cynyddu cynhyrchiant ac arloesi/ymchwil a datblygu.
 
Bydd cyfle ichi ymgeisio am ostyngiad ym mlwyddyn ariannol 2016/17 tan ddydd Gwener, 31 Mawrth 2017.
 
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Mae gan rownd ddiweddaraf Cynllun Ardrethi’r Ardaloedd Menter y potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fusnesau trwy eu helpu i dorri’n sylweddol ar eu biliau ardrethi.  Byddai hynny’n gwella’u llif arian ac yn eu galluogi i fuddsoddi i helpu’u busnesau i dyfu.
 
“Lansion ni’r cynllun yn 2012 a rhwng 2012-2016, mae rhyw £9miliwn wedi’i gynnig i ragor na 200 o fusnesau cymwys yn saith o’n Hardaloedd Menter.  Estynnwyd y cynnig i Ardal Fenter Glannau Port Talbot ar ôl ei dynodi’r llynedd.”
 
Am ragor o wybodaeth am y Cynllun, gall busnesau ffonio llinell gymorth Busnes Cymru ar radffôn 03000 6 03000 neu e-bostio tîm yr EZBRS yn EZBRS@wales.gsi.gov.uk am ffurflen gais.