Rheoli Pla

Mae Pwyllgor Craffu y Cyngor wedi nodi’r adroddiad ar reoli pla a gyflwynwyd yng nghyfarfod heddiw (Dydd Iau 27 Chwefror 2020).

Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y data galw am wasanaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer 2018/2019 a 2019/2020 hyd at 31 Rhagfyr 2012.

Mae’r gwasanaeth presennol yn darparu triniaethau am ddim ar gyfer heigiadàu llygod mawr ar gyfer pob eiddo preswyl ym Mlaenau Gwent. Caiff ei ddarparu gan Rentokil (a elwid yn flaenorol yn Mitie Pest Control) ar ran y Cyngor.

Mae Rentokil yn darparu triniaethau eraill yn cynnwys llygod, pycs, chwilod du a chwain, a gynigir am gost. Fodd bynnag, mae gostyngiad o 50% ar gael i breswylwyr sy’n derbyn y budd-daliadau dilynol:

• Credyd Cynhwysol
• Cymhorthdal Incwm
• Gostyngiad Treth Gyngor
• Credyd Treth Gwaith neu Blant
• Lwfans Chwilio am Swydd

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae nifer yr ymweliadau a wneir gan ein tîm rheoli pla bob blwyddyn yn profi fod y gwasanaeth hwn yn dal i fod yn hanfodol a bod llawer o’n preswylwyr yn ei ddefnyddio. Gyda hynny dan sylw rydym wedi adolygu’r gwasanaeth yn flaenorol ac felly’n parhau i’w ddarparu i’n preswylwyr. Mae’r gwasanaeth yn cynnig triniaeth am ddim i breswylwyr ar gyfer heigiadau llygod mawr. Mae triniaethau eraill ar gael ar gost gyda gostyngiadau ar gael.”

Fe wnaeth cyfarfod craffu heddiw drafod a nodi cynnwys yr adroddiad. Cytunwyd ar opsiwn dau, a derbyniodd aelodau yr adroddiad.

Mae’r gwasanaeth rheoli pla yn gweithredu rhwng 8.30am a 5pm ar ddyddiau Llun i ddyddiau Gwener. Nid yw’r gwasanaeth ar gael ar wyliau cyhoeddus.

I drefnu ymweliad rheoli pla gan Rentokil cysylltwch â nhw’n uniongyrchol ar:
 
Ffôn: 01454 771515

Mae’r adroddiad ar gael ar y ddolen ddilynol: http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=1164&MId=1833&Ver=4&LLL=0