Rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru i sicrhau bod busnesau tecawê yn hyrwyddo eu sgôr hylendid bwyd ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd

O 28 Tachwedd 2016, tair blynedd ers i'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol ddod i rym yng Nghymru, bydd yn ofynnol i fusnesau bwyd tecawê gyhoeddi datganiad dwyieithog ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd copi caled penodol.

Os yw taflen neu fwydlen bwyty tecawê yn dangos bwyd ar werth, faint mae'r bwyd yn ei gostio a ffordd o archebu'r bwyd heb orfod ymweld â'r safle, bydd hefyd angen iddi gynnwys datganiad sy'n atgoffa cwsmeriaid y gallant wirio sgôr hylendid y busnes ar y wefan sgorio hylendid bwyd http://ratings.food.gov.uk/. Bydd y datganiad hefyd yn atgoffa defnyddwyr bod modd iddynt ofyn i'r busnes bwyd am eu sgôr hylendid bwyd wrth archebu.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd statudol ym mis Tachwedd 2013, gyda'r Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd ddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu safle.

Ers ei gyflwyno, mae'r cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau hylendid yng Nghymru. Mae dros 94% o fusnesau bwyd yng Nghymru bellach â sgôr o 3 (boddhaol ar y cyfan) neu uwch.