Rhannu Bywydau De Ddwyrain Cymru

Yn Rhannu Bywydau caiff oedolion sydd ag anghenion gofal neu gymorth eu cyfateb gyda gofalwyr cymwys.

Mae gofalwyr yn rhannu eu  bywyd cartref, teulu a chymuned gyda'r person, gan helpu i ddatblygu a chynnal sgiliau byw annibynnol, cyfeillgarwch a chysylltiadau yn eu hardal leol.

Gall pobl sy'n defnyddio Rhannu Bywydau gael mynediad i:

  • Rhywle i fyw yn yr hirdymor
  • Rhywle i aros am wyliau byr neu seibiant
  • Rhywle i fynd am gymorth yn ystod y dydd
  • Cymorth i helpu atal derbyn i ysbyty
  • Cymorth tymor byr yn dilyn rhyddhau o ysbyty 

Beth mae'r cynllun Rhannu Bywydau yn ei wneud?
Fel cynllun rydym yn canfod pobl sydd eisiau bod yn ofalwyr Rhannu Bywydau ac rydym bob amser yn:

  • Cwblhau llawer o wiriadau (yn cynnwys gwiriadau gyda'r heddlu) i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel
  • Sicrhau eu bod y math iawn o bobl i fod yn ofalwyr Rhannu Bywydau
  • Rhoi hyfforddiant iddynt i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth

Gwnawn yn siŵr y caiff pobl eu cyfateb gyda gofalwyr sy'n iawn iddynt drwy:

  • Ymweld â phobl yn eu cartrefi i drafod Rhannu Bywydau a dod i'w hadnabod
  • Trefnu ymweliadau prawf i bobl gwrdd â gofalwyr Rhannu Bywydau a gweld os ydynt yn gydnaws
  • Gwneud yn siŵr fod gan ofalwyr Rhannu Bywydau y sgiliau cywir i gefnogi pob person
  • Ymweld yn rheolaidd â gofalwyr Rhannu Bywydau a'r bobl a gafodd eu cyfateb gyda nhw a gellir cysylltu ag unrhyw amser am gymortth a chyngor
  • Adolygu ein holl leoliadau i wneud yn siŵr fod pethau'n mynd yn iawn

Pa fathau o gymorth mae ein gofalwyr yn ei gynnig?
Mae ein gofalwyr yn ymroddedig a hyblyg iawn yn y gefnogaeth a gynigiant, a all gynnwys:

  • Cymorth i ddatblygu a chynnal sgiliau fel paratoi bwyd, siopa a threfnu arian
  • Cymorth i ddatblygu a chynnal sgiliau ar gyfer tasgau cadw tŷ
  • Helpu i ehangu cylchoedd cymdeithasol a chysylltiadau cymunedol
  • Cymorth i adeiladu hyder a chynyddu annibyniaeth
  • Help i gael mynediad i waith neu addysg
  • Cymorth gyda gofal personol
  • Help i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol

I gael mwy o wybodaeth am y Cynllun gallwch edrych ar ein tudalen gwefan Rhannu Bywydau neu:

Ffonio: 01443 864784
E-bost: adultp@caerphilly.gov.uk
Gwefan: www.caerphilly.gov.uk/sharedlives

Gweithio mewn Partneriaeth Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Thorfaen.