Rhan2 yr A465: Enw ar gyfer pont eiconig


Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, a’r prif gontractwr, sef Costain, sy’n cyflawni’r cynllun deuoli ‘Rhan 2’ yr A465, sy’n ymestyn 8km o Frynmawr yn y gorllewin i Gilwern yn y dwyrain, eisiau anrhydeddu John Henry Williams a fu’n byw yn y gymuned lle mae Costain wedi bod yn gweithio dros y tair blynedd diwethaf.
 
 Ac yntau wedi’i arwisgo bedair gwaith am ei ddewrder yn ystod y gwrthdaro a oedd i’w adwaen fel Y Rhyfel Mawr, cafodd dyn lleol, John – yn cael ei adnabod yn well fel Jack – ei eni yn Nantyglo ym mis Medi 1886.
 
 Yn Gymro a weithiai fel gof mewn pwll glo, ymrestrodd yn y 10fed Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru (rhan o’r 38fed Adran (Gymreig) ym mis Tachwedd 1914 a chafodd ei ddyrchafu’n uwch-ringyll cwmni ar 2 Hydref 1917. Ym mis Hydref 1918, achubodd ei gwmni a’r pentref cyfan rhag cael eu dinistrio bron yn sicr, a hynny ar ei ben ei hun. Am y weithred ddewr anhunanol hon, dyfarnwyd Croes Fictoria iddo. Yn flaenorol, dyfarnwyd iddo’r Fedal Ymddygiad Rhagorol, y French Médaille Militaire a’r Fedal a’r Bar Milwrol

Mae ei ddyfyniad ar gyfer Croes Fictoria yn disgrifio’i weithredoedd arwrol: Am wroldeb, mentergarwch ac ymroddiad amlwg i ddyletswydd ar noson 7 – 8 Hydref 1918, yn ystod cyrch ar Villers Outreaux, pan welodd fod ei gwmni yn dioddef nifer fawr o anafusion o wn peiriant y gelyn, gorchmynnodd rhoi Gwn Lewis ar waith, ac aeth ymlaen, dan danio trwm, at ymyl safle’r gelyn ac ymosododd arnynt ar ei ben ei hun, gan ddal pymtheg o’r gelyn.
 
 Fe wnaeth y carcharorion hyn, gan sylweddoli fod Williams ar ei ben ei hun, droi arno a chydiodd un ohonynt yn ei reiffl. Llwyddodd i dorri i ffwrdd a bidogi pum gelyn, a bryd hynny fe wnaeth y gweddill ildio eto. Drwy’i weithredu gwrol a’i ddiystyrwch llwyr o berygl personol, fe fu’n gyfrwng nid yn unig i alluogi ei gwmni ei hun i symud ymlaen, ond y rheiny ar yr ymylon hefyd.
 
 Croes Fictoria yw’r dyfarniad uchaf am wroldeb yn wyneb y gelyn y gellir ei ddyfarnu i luoedd Prydain a’r Gymanwlad. Mae hwnnw, ynghyd â’r anrhydeddau eraill a dderbyniodd, yn gwneud Jack Williams yn swyddog digomisiwn mwyaf arwisgedig Cymru erioed. 
 
 Mae’r mwyaf o’r strwythurau ar brosiect ‘Rhan 2’ yr A465, sy’n dominyddu rhan fwyaf gorllewinol Ceunant Clydach, yn bont fwa gwthiad sgiw 118m o rychwant sy’n croesi o’r gogledd i’r de, gyda ffordd gerbydau aml-lefel yr A465 oddi tani. Mae’r bont newydd yn croesi’r Ceunant hefyd, yr ystyrir ei fod yn un o’r ardaloedd pwysicaf yn amgylcheddol a mwyaf sensitif yn ecolegol yn ne Cymru.

Dywedodd Bruce Richards o Costain: “Rydym ni a Llywodraeth Cymru yn gwybod bod pont o’r maint hwn yn haeddu enw sy’n cyfleu treftadaeth a diwylliant yr ardal y mae’n sefyll ynddi. Rydym wedi siarad â’r llu o ymwelwyr sydd wedi dod i’r ganolfan i wylio cynnydd y gwaith adeiladu hwn ar y bont ynglŷn â’r syniad i anrhydeddu Jack, ac roedd cefnogaeth gref.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Roedd Jack Williams yn arwr go iawn ac mae enwi’r fath bont eiconig ar ei ôl yn yr ardal lle fu’n byw yn deyrnged addas i ddyn na ddylid fyth anghofio’i enw. Bydd y cysylltiad hwn gyda Jack yn creu gwaddol parhaol i genedlaethau ei fwynhau. Mae’r ffaith y gallwn ei wneud ym mlwyddyn canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan nodi bron i 100 mlynedd yn union ers i Jack weithredu mor ddewr, yn deimladwy iawn.”

Mae Llywodraeth Cymru a Costain am i drigolion lleol ddweud eu dweud – naill ai i gefnogi Jack Williams, neu gynnig awgrym amgen.
 
Ceir cyfle i enwebu arwyr lleol eraill neu enw priodol i’r bont, gyda phleidlais gyhoeddus ar y dewis terfynol, a bydd unrhyw awgrymiadau eraill ar gyfer yr enw gan y gymuned leol yn cael eu hystyried.&

https://www.surveymonkey.co.uk/r/FCKZ3BJ