Rhai gwasanaethau Cofrestrydd yn ail-ddechrau yng Ngwent

Yn dilyn cyhoeddiad pellach gan Lywodraeth Cymru ar 22 Mehefin 2020, gall Cofrestru Genedigaethau ac apwyntiadau ar gyfer Hysbysiadau Priodas ailddechrau ym Mlaenau Gwent o 29 Mehefin 2020.


Apwyntiadau Cofrestru Genedigaethau a Hysbysiadau Priodas

Er mwyn cofrestru genedigaeth a rhoi Hysbysiad Priodas, mae Llywodraeth Cymru yn awr wedi cadarnhau ei bod yn rhesymol i berson adael eu hardal leol neu fod dan do gyda pherson arall nad yw’n aelod o’u haelwyd.

Gan ein bod yn delio gydag ôl-groniad o gofrestriadau, byddwn yn anelu blaenoriaethu apwyntiadau yn seiliedig ar ddyddiad geni'r baban, a dyddiad priodas.

Bydd angen apwyntiad wyneb i wyneb yn y swyddfa gofrestru yn Nhŷ Bedwellte, Tredegar i gofrestru genedigaeth neu roi Hysbysiad Priodas. Dim ond os ydych wedi trefnu apwyntiad ymlaen llaw y rhoddir mynediad a rhaid cydymffurfio gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol bob amser. Rhoddir cyngor pellach yn y cyswllt hwn pan wnewch yr apwyntiad.

Dylid nodi y gwnaed trefniadau newydd ar gyfer pob genedigaeth o fewn ardal ‘Gwent’ yn cwmpasu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r pum awdurdod lleol sef Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen yn cydweithio fel y gallwch fynychu eich swyddfa leol i gwblhau’r cofrestriad a phrynu tystysgrif geni eich baban yn yr apwyntiad hwnnw.

Bydd manylion pellach ar wefan eich cyngor lleol:

• Gwasanaeth Cofrestru Blaenau Gwent- registrars@blaenau-gwent.gov.uk
01495 353372
• Gwasanaeth Cofrestru Caerffili - registrars@caerphilly.gov.uk
01443 864166 neu 864170
• Gwasanaeth Cofrestru Casnewydd - registrar@newport.gov.uk
01633 235510 neu 235520
• Gwasanaeth Cofrestru Sir Fynwy - RegisterOffice@monmouthshire.gov.uk
01873 735435
• Gwasanaeth Cofrestru Torfaen - registrars@torfaen.gov.uk
01495 742132 neu 742133 os dymunwch archebu apwyntiad, ffoniwch  01495 353372 os gwelwch yn dda

 
Priodasau a phartneriaethau sifil

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau yng nghyswllt rheoliadau Coronafeirws sy’n awr yn caniatáu gweinyddu priodasau mewn man addoliad a gofrestrwyd ar gyfer priodasau a ffurfio partneriaethau sifil lle mae’r man addoli hefyd yn safle cymeradwy, yn amodol ar i ofynion ymbellhau cymdeithasol fod ar waith.

Rydym yn disgwyl eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru yng nghyswllt priodasau a phartneriaethau sifil mewn swyddfeydd cofrestru ac mewn safleoedd seciwlar cymeradwy a byddwn yn rhoi diweddariad cyn gynted ag y gallwn.

Dylai cyplau sy’n dewis rhoi hysbysiad, gydag ansicrwydd os fydd eu man addoli ar gael, gadw mewn cof os nad yw’r lleoliad a nodwyd yn yr hysbysiad yn ailagor yn y dyfodol am ryw reswm ac na fedrir cynnal eu priodas neu bartneriaeth sifil yn y lleoliad hwnnw yna y byddai angen hysbysiadau newydd.

Bydd angen i gofrestriadau ar gyfer cymryd hysbysiadau priodas angen apwyntiad wyneb i wyneb yn y swyddfa gofrestru yn Nhŷ Bedwellte, Tredegar. Dim ond os oes gennych apwyntiad wedi’i drefnu ymlaen llaw ac mae’n rhaid cydymffurfio â mesurau ymbellhau cymdeithasol bob amser.

Os dymunwch archebu apwyntiad ffoniwch 01495 353372.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru:

“Rydym wedi addasu’r rheoliadau coronafeirws i ganiatáu agor mannau addoli ar gyfer gweinyddu priodasau a ffurfio partneriaethau sifil yn amodol ar gynnal mesurau ymbellhau cymdeithasol. Bydd hyn yn golygu y gellir cynnal seremonïau cyfyngedig yn y lleoliadau hyn ac mewn swyddfeydd cofrestru. Nid yw hyn yn ymestyn i dderbyniadau neu ddathliadau eraill y bydd llawer eisiau eu mwynhau fel rhan o’u priodas. Nid yw mynd i’r afael â coronafeirws yn caniatáu i ni fynd ymhellach ar y cam hwn.

“Gall y lleoliadau hyn benderfynu p’un ai ydynt eisiau agor ar gyfer dibenion o’r fath. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar ganllawiau manwl mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid. Ni fedrir cynnal seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil mewn safleoedd cymeradwy, megis gwestai neu safleoedd treftadaeth, gan eu bod ar gau ar hyn o bryd.

Rydym yn disgwyl canllawiau pellach gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol a bydd diweddariad pellach ar gael yn y dyfodol agos.”


Cofrestru Marwolaethau

Bydd pob cyfweliad ar gyfer cofrestru marwolaethau yn parhau i gael eu cynnal dros y ffôn. Cysylltwch â 01495 355372 i gael help a chyngor.