Rhaglen imiwneiddio rhag ffiw i GIG ar gyfer gweithwyr gofal cantraf yn 2019 - 20

Mae'r holl staff a gyflogir gan wasanaethau gofal cartref fel y disgrifir uchod ac sy'n dod i gysylltiad rheolaidd ag oedolion sy'n agored i niwed yn gymwys. Bydd y rhan fwyaf o'r staff hyn yn darparu gofal personol neu glinigol uniongyrchol i'r bobl hynny yn eu cartrefi eu hunain. Mae disgwyl i bob cyflogwr gynllunio sut i nodi'r staff sy'n dod i gysylltiad rheolaidd â chleientiaid a chadarnhau i fferyllfeydd cymunedol eu bod yn gymwys fel yr amlinellir isod.

Gweithwyr Iechyd a Gofal

Argymhellir bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd â gofal uniongyrchol i gleifion / cleientiaid yn cael brechiad blynyddol i amddiffyn eu hunain a'r rhai sydd yn eu gofal.

Mae gennych gyfrifoldeb i amddiffyn eich cleifion rhag haint. Mae hyn yn cynnwys brechu rhag ffliw.

Mae brechu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn helpu i leihau lefel absenoldebau salwch ac yn cyfrannu at gadw'r GIG a'r gwasanaethau gofal i redeg. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ymateb i bwysau gaeaf.

Mae staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal oedolion a hosbisau plant sydd â chyswllt cleient rheolaidd yn cael cynnig brechiad ffliw y GIG a gellir cyrchu hwn trwy fferyllfa gymunedol.

Rhaid i gyflogwyr gofal iechyd, gan gynnwys contractwyr gofal sylfaenol, fynd ati i hyrwyddo buddion cadarnhaol brechu rhag y ffliw i weithwyr trwy roi gwybodaeth gytbwys a ffeithiol gywir i staff mewn modd amserol.

Cyflwyniad PowerPoint - Sut i gael gafael ar frechiad ffliw y GIG AM DDIM ar gyfer Staff Gofal Cartref

Curwch Ffliw