Rhaglen Gofal Plant a Gweithgareddau Haf

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cwblhau trefniadau ar gyfer ei gynnig gofal plant a gweithgareddau haf, gyda’r ffocws ar ddarparu cefnogaeth i blant bregus a’u teuluoedd fel yr amlinellir gan Lywodraeth Cymru.

Dros y pedwar mis diwethaf rydym yn falch i fod wedi darparu gofal plant i dros 500 o blant gweithwyr allweddol oedd yn hanfodol i’r ymateb i Covid-19, un ai drwy hybiau ysgol wedi eu hailwampio neu ofal plant preifat a gyllidwyd.

Mae darpariaeth hybiau ysgol ar gyfer plant gweithwyr allweddol wedi dod i ben erbyn hyn. Diolch i ymrwymiad a gwaith caled staff ysgolion a’r awdurdod lleol, bu ein hybiau gofal plant yn lleoedd diogel, hapus a difyr i blant eu mynychu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gynghorau drwy Gronfa Caledi Argyfwng Awdurdodau Lleol i’w galluogi i ddarparu gofal plant a gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc fregus.

Ym Mlaenau Gwent, dros gyfnod yr haf hyd at 31 Awst 2020, mae hyn yn golygu:

• Bydd gofal plant cofrestredig wedi’i gyllido ar gael i blant bregus hyd at 11 oed. Bydd yr Awdurdod Lleol yn gweithio gydag ysgolion a phartneriaid i ddynodi’r teuluoedd hynny sy’n gymwys am y ddarpariaeth hon a bydd yn cysylltu’n uniongyrchol â nhw
• Ar gyfer plant bregus dros 11 a ddynodwyd, mae’r Cyngor yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin i gynnig rhaglen gweithgareddau mewn gwahanol safleoedd o amgylch y fwrdeistref sirol. Mae manylion pellach ar hyn i ddilyn
• Cynhelir y Clwb Haf – rhaglen Ymgyfoethogi ac Ymgysylltu – am ddwy wythnos yn ystod gwyliau’r haf (wythnosau’n cychwyn 3 Awst a 10 Awst). Bydd y clybiau haf yn seiliedig mewn ysgolion neilltuol ledled y fwrdeistref. Bydd y Clwb Haf yn debyg i’r Rhaglen Ymgyfoethogi Gwyliau Haf (SHEP) a gynhaliwyd yn llwyddiannus iawn yn y fwrdeistref mewn blynyddoedd diweddar. Caiff teuluoedd cymwys eu dynodi gan ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Cyngor a’i bartneriaid. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn gynnar yr wythnos nesaf
• Bu Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn gweithio’n galed drwy gydol y pandemig ac mae wedi paratoi rhaglen haf helaeth wedi’i anelu at bobl ifanc 11-25 oed. Bydd y rhaglen yn cynnig ymgysylltu wyneb-i-wyneb, tebyg i gynllun Dug Caeredin, a sesiynau digidol/rhithiol. Bydd gweithgareddau yn cynnwys grwpiau rhithiol gyda thema tebyg i gelf, cerddoriaeth a choginio, teithiau cerdded llesiant a gwaith gydag ieuenctid datgysylltiedig. Cadwch lygad ar eu tudalen Facebook i gael mwy o fanylion. Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn darparu cefnogaeth pontio ar gyfer Blynyddoedd 6 i 7 a 11 i ôl-16. Byddant hefyd yn cynnig cefnogaeth gyda chyflogaeth, iechyd meddwl a digartrefedd pobl ifanc
• Ni fydd darpariaeth gofal plant ar gyfer plant oedran ysgol gweithwyr allweddol ar gael bellach
• Bydd gofal ar gyfer plant hyd at 4 oed (a brodyr a chwiorydd iau lle dynodwyd hynny) yn parhau lle cafodd hyn ei gymeradwyo eisoes drwy gynllun C-CAS. Ni chaiff unrhyw geisiadau newydd eu derbyn heblaw ar gyfer staff seiliedig mewn ysgol neu blant bregus drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol
• Bydd taliadau uniongyrchol ar gyfer teuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim hefyd yn parhau i gael eu talu tan 31 Awst. Ar hyn o bryd rydym yn talu bron 90% o deuluoedd cymwys. Medrwch ddal i wneud cais am daliad yma –  https://iweb.itouchvision.com/portal/f?p=customer:category_link:::::CUID,LANG:A2B40E379272FB6820B9E9053140A1A8C0CCEBC8,EN&P_LANG=en

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

“Bu hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer o deuluoedd ac rydym yn gweithio’n agos gyda ein hysgolion, darparwyr gofal plant a Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ein bod yn cefnogi ein teuluoedd mwyaf bregus dros yr haf. Rydym wedi llunio rhaglen sy’n cynnig gofal plant lle mae hynny’n addas ac yn cyflwyno gweithgareddau diddorol a defnyddiol i helpu ein plant a phobl ifanc sydd dan fwyaf o anfantais i ailgysylltu gydag addysg a hyrwyddo eu llesiant corfforol a meddyliol.”