Pythefnos Maethu Mai - 14eg - Mai 27 ain

Beth yw maethu?

Nid oes gan bob plentyn gartref cynnes, diogel, sefydlog. I rai pobl ifanc, gall bywyd fod yn anodd, a phryd bydd hynny yn digwydd mae arnyn nhw angen oedolyn gofalgar i gredu ynddynt hyd nes y gall pethau wella. Mae gofalwyr maeth yn darparu'r gefnogaeth honno. Mae p'un a ydynt yn gwneud hynny yn y tymor byr neu'r hirdymor yn dibynnu ar anghenion y plentyn, ond beth bynnag yw'r math o leoliad, mae gan ein gofalwyr y potensial i drawsnewid bywydau.

Gall GOFALWYR MAETHU:

  • Bod yn wryw neu'n fenyw
  • Bod yn sengl, yn briod, wedi ysgaru, yn weddw neu'n byw gyda phartner
  • Yn berchen ar eich cartref eich hun, neu'n rhentu, ond mae angen i'ch llety fod yn sefydlog
  • Bod ag anabledd
  • Bod yn gyflogedig, yn ddi-waith neu wedi ymddeol
  • Bod yn heterorywiol neu mewn perthynas o'r un rhyw
  • Bod yn rhiant, llys rhiant, rhiant sengl neu efallai na fyddwch chi erioed wedi cael eich plant eich hun.

OEDRAN: Nid oes terfyn oedran uchaf ond mae'n rhaid i chi fod dros 21 mlwydd oed a bod mewn iechyd cyffredinol da.

BYDD ANGEN BOD YSTAFELL SBÂR GYDA CHI

MAE GAN OFALWYR MAETH RAI PETHAU’N GYFFREDIN:

  • Maent i gyd yn caru plant
  • Maent i gyd yn gweithio fel rhan o dîm
  • Maent yn ddeallus ac yn amyneddgar
  • Mae ganddynt lawer o egni a synnwyr digrifwch
  • Nid ydynt yn rhoi'r gorau iddi yn hawdd pan fydd pethau’n mynd yn anodd

Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn hoffi plant a rhianta, a bod gennych le yn eich cartref a'ch calon i ofalu'n frwdfrydig a chydag ymroddiad am blentyn rhywun arall.

Maethu Un i Un

Yn ddiweddar, rydym wedi cytuno i ariannu math penodol newydd o faethu a elwir yn Un i Un.

Cynlluniwyd y gwasanaeth hwn fel cynllun peilot i recriwtio nifer gyfyngedig o ofalwyr maeth a all arbenigo mewn gofalu am blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth.

Beth bynnag yw'r math o anghenion y mae'n rhaid i'r plentyn neu'r plant sy'n dioddef ohono fod yn ddigonol i warantu gofalwr sydd ar gael i'r plentyn hwnnw i raddau llawer mwy nag a  ddisgwylir gan ofalwr generig. Rhaid i'r prif ofalwr beidio ag ymrwymo i weithio neu weithgareddau sy'n mynd â nhw i ffwrdd o'r cartref yn rheolaidd.

Bydd y cynllun yn agored i unrhyw un wneud cais ond fe fydd meini prawf caeth yn cael eu cymhwyso i'r rheini sy'n dymuno ymgymryd â'r rôl hon. Bydd gan ymgeiswyr brofiad a / neu gymwysterau perthnasol a fydd yn eu helpu i gyflawni'r rôl anodd hon.

Bydd gofalwyr hefyd yn derbyn cyfradd lwfansau a ffioedd gwell sy'n gymesur â'r rhai a delir gan ddarparwyr annibynnol. Bydd taliad bach hefyd yn cael ei dalu am gyfnodau pan fydd gofalwr ar gael ond na chafodd plentyn ei leoli gyda nhw.

Maethu Generig

Mae gofalwyr maeth generig yn darparu lleoliadau tymor byr neu hirdymor, hyd nes y gall plentyn ddychwelyd adref i'w deulu ei hun neu symud i deulu mabwysiadol. Yn gyffredinol, mae angen lleoliadau hirdymor ar gyfer plant sydd angen cartref i ffwrdd o'u teulu geni oherwydd problemau hirsefydlog. Yn aml, mae angen arweiniad a chymorth ar blant o'r fath o fewn lleoliad gofalgar, deallus a chariadus ac mae lleoliad hirdymor wedi’i fwriadu i ddarparu sefydlogrwydd a diogelwch nes bod y plentyn / person ifanc yn cyrraedd annibyniaeth.

Llety â Chymorth

Mae lleoliadau Llety â Chymorth yn gam i annibyniaeth i bobl ifanc 16- 21 oed sydd mewn perygl o ddigartrefedd, a’r rhai hynny sy’n gadael y system gofal.

Mae darparwyr yn cynnig cefnogaeth emosiynol a’r cyfle i ddysgu sgiliau ymarferol hanfodol mewn lleoliad diogel. Nid oes ganddynt yr un cyfrifoldebau cyfreithiol â rhiant neu riant maeth, ac mae yna broses asesu gwahanol.

Mae darparwr Llety â Chymorth yn rhywun sydd ag 

  • Ystafell sbâr yn eu cartref, ac
  • Yn awyddus i helpu person ifanc bregus.

Mae darparwyr Llety â Chymorth yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r bobl ifanc hyn, dim ond trwy eu croesawu i’w cartrefi. 

Rydym am glywed gennych chi ar ein llinell ymholiadau 07890312429 neu drwy e-bost: FOSTERING@blaenau-gwent.gov.uk

NEU

Rydym yn cynnig gwasanaeth galw heibio bob dydd Mawrth 10am-12pm yn Nhîm Lleoli Blaenau Gwent, Canolfan Adnoddau Teuluol, Beaufort Road, Glynebwy, NP23 5LH.