Pump o bobl ifanc yn destun gwaharddebau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol newydd ym Mlaenau Gwent

Mae Cyngor Blaenau Gwent, sy'n gweithio fel rhan o dasglu newydd, wedi llwyddo i sicrhau gwaharddebau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn erbyn pump o bobl ifanc gwrywaidd sydd wedi arddangos ymddygiad treisgar a bygythiol parhaus yn ardaloedd Bryn-mawr a Thredegar.

Mae hyn wedi dilyn cwynion niferus gan drigolion a busnesau yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt am ymddygiad pobl ifanc rhwng 14 a 17 oed.

Mae'r gwaharddebau wedi'u cynllunio i atal yr unigolion sy'n gyfrifol rhag mynd i ardaloedd gwaharddedig a nodwyd ac achosi problemau pellach. Mae'r Gwaharddebau yn cario pŵer arestio am unrhyw achos o dorri'r gorchymyn llys.

Mae Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol newydd sy'n cynnwys Cyngor Blaenau Gwent, Heddlu Gwent, Tai Calon Community Housing a Gwasanaeth Ieuenctid BG wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu ymateb cyflym, cydlynol a chymesur i ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Fel rhan o raglen ymgysylltu Siarad Gyda’n Gilydd y Cyngor, mae'r Tasglu wedi bod allan yn gwrando ar bryderon gwirioneddol pobl am ymddygiad yn eu cymunedau a'u gwneud yn ymwybodol o'r ffyrdd i roi gwybod am unrhyw ymddygiad sy’n peri pryder.

Erbyn hyn mae gan y Cyngor dîm o Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol sy'n patrolio lleoliadau problemus yn rheolaidd, ynghyd â Thîm Plismona Cymdogaeth lleol Heddlu Gwent a'r Swyddogion Diogelwch Cymunedol.  Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor hefyd yn gweithio yn y lleoliadau allweddol hyn, gan ddarparu cyfleoedd a gweithgareddau cadarnhaol i blant a phobl ifanc i geisio atal y llwybr at ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Meddai'r Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Leoedd a'r Amgylchedd, sy'n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol:

"Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu bywydau bob dydd. Rydym yn gwybod o siarad â phreswylwyr nad yw hyn bob amser yn wir, oherwydd pocedi o ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus. Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda Tai Calon a Heddlu Gwent i sicrhau'r gwaharddebau hyn ac yn falch bod y Llys wedi cydnabod y trallod a'r braw a achoswyd gan weithredoedd y rhai dan sylw. 

"Bydd gwaharddeb o'r math hwn bob amser yn ddewis olaf pan fydd llwybrau eraill eisoes wedi’u dilyn. Prif nod y Tasglu yw defnyddio ymyrraeth gynnar, gan geisio atal ymddygiadau o'r fath rhag gwaethygu, lleihau'r effaith ar breswylwyr a chynnal diogelwch cymunedol.   

"Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gofyn am waith partneriaeth, ac mae hyn yn cynnwys cynghorwyr lleol, preswylwyr a busnesau lleol. Mae'n bwysig, fel llygaid a chlustiau eu cymunedau, eu bod yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau'n briodol fel bod yr asiantaethau perthnasol yn ymwybodol ac yn gallu gweithredu".

Mae'r Cyngor yn cadeirio'r Grŵp Rheoli Achosion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, lle mae nifer o asiantaethau’n gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithiol trwy ddelio ag anghenion fel addysg, atal, ymyrraeth a gorfodi. O bryd i'w gilydd, gall partneriaid gytuno bod angen mesurau cosbi lle bo hynny'n briodol, yn gymesur ac yn angenrheidiol.

Mae pob achos yn mynd trwy broses gadarn ac yn cael ei farnu'n broffesiynol ar natur, amlder a difrifoldeb yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd partneriaid yn ceisio ymyrryd a chefnogi ar bob cam i atal y sefyllfa rhag gwaethygu.

Yn ddiweddar, mae'r Grŵp hefyd wedi ymrwymo i Gontractau Ymddygiad Derbyniol gwirfoddol gyda dau berson ifanc, gan arwain at raglen fwy dwys o gymorth cofleidiol gan wasanaethau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Stevie Warden: 

"Un o brif amcanion Heddlu Gwent, a'n partneriaeth diogelwch cymunedol ym Mlaenau Gwent, yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu preswylwyr rhag niwed a niwsans cysylltiedig.

"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ei holl ffurfiau, yn gwbl annerbyniol. Gall effeithio'n sylweddol ac yn negyddol ar ein trigolion a'r rhai sy'n gweithio yn yr ardal.

"Gyda phartneriaid, rydym yn cyflawni nifer o ymgyrchoedd rhagweithiol ac yn cyflwyno mentrau ymgysylltu i fynd i'r afael â'r broblem. Pan ddaw troseddu’n broblem barhaus, fodd bynnag, un o'r pethau rydym yn ei ystyried yw gwneud cais am waharddebau ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBI), sy'n gosod amodau penodol ar unigolion sydd wedi ymddwyn yn afreolus yn y gorffennol.

"Rwy'n falch o'r camau gorfodi parhaus a gymerwyd gan y bartneriaeth i wneud cais am waharddebau yn y llys. Mae'r prosesau hyn yn ein galluogi i ymyrryd a siarad â throseddwyr am sut mae eu hymddygiad yn effeithio'n negyddol ar eu cymuned - yn y gobaith o wella eu hymddygiad, atal rhagor o anhrefn a'u hatal rhag cael eu derbyn i’r system cyfiawnder troseddol."

Meddai Gillian Barnett, Swyddog Diogelwch Cymunedol Tai Calon Community Housing:

"Yn Tai Calon Community Housing, rydym wedi ymrwymo i feithrin cymunedau diogel a chroesawgar ar gyfer ein holl breswylwyr. Mae'r gwaharddebau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol diweddar yn gam pwysig ymlaen yn ein hymdrech ar y cyd â’r Awdurdod Lleol a Heddlu Gwent i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mlaenau Gwent a lleihau achosion.  Fel tasglu, gwnaethom ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i bryderon ein cymuned. Credwn y bydd y mesurau hyn yn lleihau problemau cyfredol ac yn gweithredu fel dull rhagweithiol o atal digwyddiadau yn y dyfodol, gan sicrhau amgylchedd mwy diogel i bawb."

I roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol i Heddlu Gwent, cysylltwch â 101 (achosion nad ydynt yn argyfyngau), anfonwch neges uniongyrchol atynt ar y cyfryngau cymdeithasol (@gwentpolice) neu rhowch wybod ar-lein: https://www.gwent.police.uk/

Os yw'r person/personau rydych yn cwyno amdanynt yn denant/deiliad contract darparwr tai cymdeithasol cofrestredig, dylid rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol i'r Gymdeithas Dai berthnasol.

Gallwch hefyd roi gwybod am rai achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol i Gyngor Blaenau Gwent, er enghraifft, delio â chymdogion swnllyd, gorfodi parcio sifil, tipio anghyfreithlon, baw ci neu anifeiliaid strae.

Gallwch roi gwybod i'r Cyngor yn y ffyrdd canlynol:

Cosb

Rhyw

 

Oedran

Ardal Waharddedig

Hyd

Gwaharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwryw

16

Bryn-mawr

8 mis

Gwaharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwryw

14

Bryn-mawr

8 mis

Gwaharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwryw

17

Bryn-mawr

8 mis

Gwaharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwryw

17

Tredegar

9 mis

Gwaharddeb Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwryw

17

Bryn-mawr

8 mis

Contract Ymddygiad Derbyniol

Benyw

16

Dim

6 mis

Contract Ymddygiad Derbyniol

Gwryw

13

Dim

6 mis

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

-