Proffil categoreiddio ysgolion yn gwella


Mae Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu y Cyngor heddiw wedi nodi proffil diweddaraf ysgolion Blaenau Gwent yn System Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Categoreiddio Ysgolion.

Mae nifer yr ysgolion yn y categori ‘Gwyrdd’ wedi treblu i 12 ers 2017. Mae cyfanswm o 89% o ysgolion y fwrdeistref yn awr yn y categori ‘Melyn’ neu ‘Wyrdd’, sy’n debyg i’r perfformiad rhanbarthol.

Dywedodd y Cyng Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor mai diolch i waith caled pawb sy’n ymwneud ag Addysg yn y fwrdeistref sirol y gwelwn ein hysgolion yn gwella flwyddyn ar flwyddyn. Dywedodd:

“Hoffwn ddiolch i’n Penaethiaid Ysgol, Llywodraethwyr, athrawon a staff cymorth am eu gwaith caled a’u ffocws di-baid ar wella deilliannau, cynnydd a llesiant ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae gennych lawer i fod yn falch ohono!”

Mae ysgolion ym Mlaenau Gwent yn parhau i ddangos darlun sy’n gwella drwyddi draw ac mae Penaethiaid a staff ein hysgolion i’w cymeradwyo am eu gwaith ac ymroddiad parhaus, ond mae llawer mwy o waith i gael ei wneud.

Ychwanegodd y Cyng Collins:

“Rydym yn parhau i weithio gyda’n hysgolion a’n partneriaid yng Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru i gynnig cefnogaeth a her pwrpasol ac amserol i’r ysgolion hynny y dynodwyd eu bod angen mwy o help i wella.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn i’r Pwyllgor Craffu yma - http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/documents/s4742/Report.pdf?LLL=0

I gael mwy o wybodaeth am y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ewch i - https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-01/national-school-categorisation-system-guidance-for-schools-local-authorities-and-regional-consortia.pdf