Presenoldeb mewn Angladdau – caniatáu cynnydd mewn nifer galarwyr mewn mynwentydd

Datganiad Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent ar niferoedd mewn gwasanaethau CLADDU

Heddiw (30/07/20), cytunodd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent, yn cynnwys y pum cyngor,  i gynyddu nifer y galarwyr y caniateir iddynt fynychu angladdau mewn mynwentydd o fewn pump ardal awdurdod lleol Gwent i 30. Daw hyn i rym ddydd Llun 3 Awst 2020.

Oherwydd pandemig parhaus Covid-19 ac yn unol â chyfyngiadau’r llywodraeth, mae’n dal i fod angen cyfyngu nifer y bobl mewn unrhyw ofod cyhoeddus a sicrhau’r pellter cymdeithasol angenrheidiol. Felly bydd nifer y galarwyr y caniateir iddynt fynychu gwasanaethau amlosgfa dan do yn Amlosgfa Gwent yn parhau ar 10.

Fodd bynnag, mae’r cynghorau yn cydnabod ac yn deall yn llawn pa mor anodd y gall y cyfyngiadau hyn fod i deulu a chyfeillion yr ymadawedig.

Cafodd lefel y galw a’r risg cysylltiedig yn y safleoedd hyn ei adolygu’n barhaus a chafodd cyfyngiadau eu llacio cyn gynted ag y credid ei bod yn deg ac addas gwneud hynny i’r cyhoedd a’r staff.

Gwneir pob penderfyniad yn dilyn adolygiad o asesiadau risg a rhoddir ystyriaeth i nifer o ffactorau, yn cynnwys y gallu i gynnal a gweithredu y gofynion pellter cymdeithasol dwy fetr yn ddiogel a’r effaith y byddai unrhyw gynnydd yn nifer y mynychwyr yn ei gael ar iechyd, diogelwch a llesiant parhaus y rhai sy’n mynychu, rheoli a gweinyddu yn yr angladd.

Mae’r niferoedd presennol yn cefnogi diogeliad parhaus y cyhoedd, yr ymdrech gyfredol i arafu lledaeniad y feirws a sicrhau y gall gwasanaethau profedigaeth barhau i gynnal angladdau diogel ac urddasol.

Ni chymerwyd y penderfyniad gwreiddiol i gyfyngu rhifau galarwyr yn ysgafn. Mae parch at yr ymadawedig a thrugaredd at y galarwyr yn rhan bwysig o’n penderfyniadau, ond mae’n rhaid i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd, ymgymerwyr a staff mynwentydd fod y consyrn pennaf yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhau.

Bydd partneriaid Fforwm Leol Cymru Gydnerth Gwent yn cadw’r mater dan adolygiad parhaus tra bod pandemig Covid-19 yn parhau i effeithio ar ardal Gwent.