Prentis Anelu'n Uchel Blaenau Gwent yn ennill Gwobr

Mae Macaulay Webber, prentis Anelu'n Uchel Blaenau Gwent, wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol bwysig a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Cafodd Macaulay, prentis Technoleg Gwybodaeth, ei leoli gyda PCI Pharma Services ers mis Tachwedd 2016 drwy'r rhaglen Anelu'n Uchel ac fe wnaeth gystadlu mewn amrywiaeth o heriau i gael ei goroni'n enillydd yn nigwyddiad rhanbarthol WorldSkills UK.

Mae cystadlaethau Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes Worldskills UK yn canolbwyntio ar yr holl ofynion hanfodol ar gyfer gyrfa llwyddiannus fel arbenigydd mewn rhaglenni Microsoft, gan weithio yn adran TG unrhyw sefydliad.

Bu Macaulay yn llwyddiannus mewn cyfres o dasgau ymarferol i ddangos ei alluoedd a'i sgiliau mewn ystod o raglenni Microsoft. Mae'r rhain yn cynnwys gweithio gyda chynnwys a data:
• Fformatio cynnwys
• Trefnu cynnwys
• Trefnu a dadansoddi data
• Fformatio data a chynnwys
• Rheoli data a gweithlyfrau

Dywedodd Macaulay:

"Mae'r wybodaeth ymarferol a'r wybodaeth a gewch mewn lleoliad gydag Anelu'n Uchel yn werthfawr tu hwnt ac yn eich galluogi i roi'r hyn rydych yn ei ddysgu yn y brifysgol ar waith mewn prosiectau byw go iawn. Mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth ymarferol a gefais yn PCI yn Nhredegar gyda help fy rheolwr llinell Colin, ac yn rhoi gwell dealltwriaeth o'r cynnwys sy'n cael ei ddysgu. Rwy'n credu fod y cyfuniad yma o addysg a brofiad ymarferol gan Anelu'n Uchel wedi hybu fy natblygiad personol ac wedi sefydlu sgiliau hanfodol ar gyfer y dyfodol.