Porter's Road, Nant-y-glo, diweddariad

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Blaenau Gwent:

"Rydym wedi cyhoeddi datganiadau yn flaenorol mewn perthynas â darn o dir yn Nant-y-glo lle'r oedd gwaith datblygu tir wedi digwydd heb ganiatâd cynllunio gan Gyngor Blaenau Gwent. Cyflwynwyd Hysbysiad Atal Dros Dro i’r tirfeddianwyr a phartïon â diddordeb ar 5 Ebrill 2024 gan ddefnyddio'r pwerau perthnasol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Ddydd Mercher, 1 Mai 2024, cafodd y Cyngor Waharddeb Uchel Lys Dros Dro yn datgan na fydd y tirfeddianwyr yn:

• cyflawni nac achosi unrhyw waith peirianneg neu weithredoedd datblygu ar y Tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw, gan gynnwys ar ffurf codi unrhyw adeilad neu strwythur arall neu drwy newid defnydd perthnasol.

• dod ag unrhyw garafán deithiol, cartref symudol nac unrhyw strwythur symudol arall i'r Tir, gan eithrio’r chwe charafán deithiol a oedd wedi'u lleoli ar y tir ar ddyddiad y waharddeb dros dro hon

Roedd y Waharddeb Uchel Lys Dros Dro hefyd yn nodi na chaiff unrhyw berson ac eithrio’r tirfeddianwyr breswylio yn neu feddiannu (gan gynnwys drwy aros dros nos) unrhyw un o'r carafanau teithiol y caniateir eu cadw ar y tir.

Roedd y Waharddeb Uchel Lys Dros Dro a roddwyd Ddydd Mercher 1 Mai 2024 yn orchymyn dros dro, gyda'r mater yn dychwelyd i'r Uchel Lys heddiw (Dydd Gwener 21 Mehefin 2024).

Heddiw mae'r Cyngor wedi cael Gwaharddeb Uchel Lys Dros Dro arall yn datgan:

·       Na fydd y tirfeddianwyr yn cyflawni nac achosi na chaniatáu i unrhyw waith peirianneg gael ei wneud ar y Tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

·       Na fydd y tirfeddianwyr yn cyflawni nac yn achosi nac yn caniatáu i unrhyw weithred ddatblygu arall gael ei chyflawni ar y Tir (gan gynnwys datblygiad gweithredol ar ffurf codi unrhyw adeilad neu strwythur arall neu drwy newid defnydd perthnasol) heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

·       Y bydd y tirfeddianwyr, heb fod yn hwyrach na 18:00 Ddydd Sul 23 Mehefin 2024 yn peidio â meddiannu, byw a/neu gysgu neu achosi neu ganiatáu i unrhyw berson feddiannu, byw a/neu gysgu mewn unrhyw garafán deithiol, cartref symudol neu unrhyw strwythur symudol arall ar y tir.

·       Y bydd y tirfeddianwyr yn symud o'r tir erbyn 17:00 Ddydd Llun 24 Mehefin 2024 bob carafán deithiol, y Portaloo, trelar a'r holl baraffernalia preswyl arall.

·       Na fydd y tirfeddianwyr wedi hynny yn achosi na chaniatáu i unrhyw garafán deithiol, cartref symudol, neu unrhyw strwythur symudol arall gael eu lleoli ar y tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

·       Na fydd y tirfeddianwyr wedi hynny yn achosi nac yn caniatáu parcio neu storio unrhyw gerbyd, peiriant neu beirianwaith ar y tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

Mae'r Waharddeb hon yn parhau i fod ar waith hyd nes y caiff ei rhyddhau neu ei hamrywio gan y Llys. Byddwn yn cyhoeddi datganiadau pellach yn ôl yr angen yn unig.