Popeth yn adio lan i fenter newydd

Gyda nifer fawr o fusnesau bach yn ardal Blaenau Gwent, credai fod angen gwasanaeth cadw llyfrau.

Credai Michelle hefyd, er fod nifer fawr o fusnesau cyfrifeg da yn yr ardal, mai ychydig iawn o wasanaethau cadw llyfrau sydd ar gael a theimlai fod hyn yn fwlch y gall ei busnes newydd ei lanw.

"Mae pobl hunangyflogedig yn aml angen ychydig o help gyda'u systemau ariannol, gan eu bod mor brysur yn gofalu am eu cwsmeriaid ac yn adeiladu eu busnesau," meddai.

Yn aelod o Gymdeithas Ryngwladol Cadwr Llyfrau, mae wedi sefydlu MJR Bookkeeping Services yn Nhredegar. Mae gan y cwmni yn awr nifer gynyddol o fusnesau bach yn gleientiaid ac mae'n eu cynorthwyo i gael eu sylfeini busnes yn gywir a'u cadw ar y trywydd cywir.

"Gall fod yn anodd a hyd yn oed atal pobl rhag gychwyn busnes," meddai. "Ond mae ychydig bach o help fel hyn yn mynd ymhell ac rydym yn falch i gynnig ein gwasanaethau ar ba bynnag lefel sydd ei angen."

Mae MJR yn defnyddio Quick Books i helpu cleientiaid olrhain eu stoc a hefyd i baratoi ar gyfer y newidiadau arfaethedig dan y rhaglen Gwneud Treth yn Ddigidol.

Derbyniodd MJR Bookkeeping Services grant o £730 gan y rhaglen Kickstart, a gaiff ei rhedeg ar y cyd gan UK Steel Enterprise, sy'n is-gwmni i Tata Steel, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Cafwyd cyllid hefyd gan Effaith Blaenau Gwent.

Dywedodd Gail Hannam o UK Steel Enterprise:

"Mae'n wych gweld busnes o'r math hwn yn lansio yn yr ardal. Bydd yn ffurfio rhan o'r rhwydwaith cymorth y mae busnesau bach eraill ei angen i ffynnu."

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

"Rwy'n falch i ddweud fod busnes arall o Flaenau Gwent wedi manteisio o gynllun grant Kickstart. Rydym yn parhau i gefnogi busnesau lleol p'un ai ydynt wedi sefydlu eisoes neu'n newydd. Dymunaf bob llwyddiant i MJR Bookkeeping. Cyflwynir y cynllun grant mewn partneriaeth rhwng y Cyngor ac UK Steel Enterprise. P'un ai ydych yn fusnes newydd neu bresennol, cysylltwch â'n tîm adfywio ac edrych ar wefan Cyngor Blaenau Gwent i gael gwybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael i chi."