Pobl ifanc yn nodi Sul y Cofio gyda cherflun Pabi ysblennydd

Bu aelodau o'r clwb, a gaiff ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, yn gweithio gyda Celf ar y Blaen a'r artist Chris Walters i greu'r cerflun hynod allan o fetel a papier-mâchè. Dywedodd Josh Bowen, Arweinydd y Clwb Ieuenctid: "Weithiau mae pobl ifanc yn cael cyn lleied o ran mewn digwyddiadau cenedlaethol a lleol pwysig fel y gwnaethom benderfynu gweithio ar brosiect Sul y Cofio eleni.

"Mae'r cerflun yn syniad y bobl ifanc ac fe wnaethant ei gynllunio gyda help yr artist Chris Walters. Fe wnaethant ymroi eu hamser eu hunain i weithio ar y prosiect bob min nos yr oedd y clwb yn agored i'w orffen mewn pryd. Fe wnaeth y bobl ifanc wedyn benderfynu yr hoffent fynychu Gorymdaith Sul y Cofio yng Nglynebwy a mynd â'u cerflun gyda nhw fel arwydd o barch a diolch am aberth pobl yn ystod y rhyfeloedd.

"Pan oeddent n gwneud y prosiect, roedd y bobl ifanc yn trafod yr aberth a chawsant wybodaeth ac ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau'r gorffennol a'r presennol."

Aeth cynrychiolwyr cangen Glynebwy o'r Lleng Brydeinig Frenhinol draw i Glwb Ieuenctid y Caban Pren yn Hilltop i weld y Pabi drostynt eu hunain a rhoi sgwrs am rôl y Lleng Brydeinig Frenhinol yn y gymuned. Meddent: "Roedd yn hyfryd gweld y clwb ieuenctid yn cymryd rhan mewn prosiect i wneud model mawr o babi i'w ddefnyddio yng Ngorymdaith Sul y Cofio. Nid ydym erioed wedi gweld dim fel hyn.

"Roedd cyfle i ni esbonio ystyr y Pabi fel symbol o Gofio a Gobaith ar gyfer y dyfodol."

Roedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y prosiect yn cynnwys Chloe Davies, Natalie Davies, Chloe Thomas, Dylan Price, Keelan Curtis a Kian Powell.

Bydd Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio yn ymgynnull yn Stryd Bethcar ger Wetherspoon's, Glynebwy am 10.15am a bydd yn symud ymlaen am 10.30am ar hyd Stryd y Farchnad a Heol Libanus i'r Gofeb Rhyfel ar gyfer Gwasanaeth Sul y Cofio, fydd yn cychwyn am 10.50am. Ar ôl y gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn ailgynnull ac yn gorymdeithio'n ôl i Heol Libanus gyda'r saliwt yn Stryd y Farchnad cyn cael ei gollwng.