Pobl ifanc yn dysgu cyfrinach llwyddiant

Dros yr wythnosau diwethaf maen nhw wedi bod yn dysgu pob math o dechnegau yn y gegin gan gynnwys gwneud bara, sgiliau cyllyll, pwyso a mesur, ac iechyd a diogelwch. Uchafbwynt hyn oedd digwyddiad ‘Come Dine With Us’ ar gyfer eu teulu a gwesteion.

Fe wnaethon nhw goginio pryd tri chwrs gyda help llaw Richard Shaw, economegydd cartref sy’n rhedeg Coginio ‘Da’n Gilydd, menter sy’n darparu gweithdai yn y gymuned ac mewn ysgolion gyda phwyslais ar fwyta’n iach.

Dywedodd Richard: “Roedden nhw’n grŵp gwych i weithio gyda nhw a gobeithio byddan nhw i gyd yn parhau i goginio’r ryseitiau gartref gyda’u teuluoedd yn y dyfodol.”

Roedd y digwyddiad yng Nghanolfan Gymunedol Wyndham Vowles, Abertyleri, yn llwyddiant ysgubol ac roedd y bobl ifanc wedi dysgu mwy na dim ond sgiliau coginio yn ôl Joanne Harper, Rheolwr Tîm yn Barnardo’s Cymru.

“Maen nhw wedi magu hyder, wedi dysgu sut mae gweithio mewn tîm, sut mae rheoli eu hymddygiad, ac wedi rhoi cynnig ar flasau ac ansoddau newydd,” meddai.

Coginiodd y bobl ifanc gawl cennin a thatws, dewis o brif gyrsiau llysieuol, a chrymbl afalau a chwstard i orffen. Nhw oedd yn gyfrifol am ddewis y fwydlen ac roedden nhw wedi cymryd rhan yn y gwaith paratoi, y gwaith o gynnal y digwyddiad ac wedi golchi’r llestri wedyn.

Dywedodd Wendy Rutherford, Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd yn Barnardo’s Cymru: “Rwy’n falch iawn ohonyn nhw a’r ffordd gwnaethon nhw weithio drwy bopeth.  Roedd hi’n meddwl y byd iddyn nhw gael gwahodd eu teuluoedd i rywbeth fel hyn. Mae eu teuluoedd wedi dweud wrthym eu bod wedi gweld gwahaniaeth go iawn yn eu hyder, ac mae eu gweld yn awyddus i gynnig cymorth blaen tŷ a chymryd perchnogaeth o’r diwrnod wedi bod yn wych.”

Mae’r gweithdai coginio wedi cael eu cynllunio i’w helpu i ddysgu sut mae bod yn annibynnol ac maen nhw ymhlith nifer o fentrau wedi’u trefnu gan Wasanaeth Cyflawni Newid Gyda’n Gilydd Barnardo’s Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Mae’r mentrau eraill yn cynnwys dosbarthiadau ar aros yn ddiogel, perthnasoedd iach a rheoli emosiynau. Mae cynlluniau hefyd i dreialu grŵp amlsynhwyraidd i bobl ifanc ag anghenion mwy cymhleth sy’n teimlo’n ynysig iawn fel arfer ac yn colli cyfleoedd cymdeithasol a hamdden, gan roi mwy o bwysau ar deuluoedd. Bydd y sesiynau, a fydd yn cael eu rhedeg gan Touch Trust, yn caniatáu iddynt archwilio cerddoriaeth a symudiadau tra bo eu rhieni’n cwrdd mewn awyrgylch hamddenol.