Pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal/gofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent yn croesawu cynllun i ddileu elw o ofal plant

Y Diwrnod Gofalu hwn (21 Chwefror), mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn ymuno â chymuned Maethu Cymru i dynnu sylw at fanteision gofal awdurdodau lleol wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru ddechrau’r broses o ddileu elw o’r system gofal plant.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i ddileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.

Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, a arweinir gan bobl sydd â phrofiad o ofal a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi’n cefnogi pobl ifanc mewn gofal i aros yn gysylltiedig â’u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau a’u hysgol.

Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.*

Dechreuodd y gofalwyr maeth, Bev a Mel, o Flaenau Gwent, faethu gydag asiantaeth faethu fasnachol yn 2018. Fe wnaethant benderfynu trosglwyddo i Faethu Cymru Blaenau Gwent yn 2024 – a ddisgrifiwyd ganddynt fel “cam cadarnhaol gwirioneddol”.

Esboniodd Mel: “Yn flaenorol, gydag asiantaeth annibynnol fe gymerodd amser hir i ddod o hyd i berson ifanc a oedd yn addas i ni.

Ond y llynedd fe ddechreuon ni faethu gyda’n hawdurdod lleol ac o fewn wythnosau cawsom ein cyflwyno i berson ifanc o’r ardal leol yr oedd ein gweithiwr cymdeithasol yn meddwl y byddai’n cyd-fynd yn dda â’n profiad.”

Aethom ni yn bendant i mewn gyda syniad o sut beth fyddai maethu gydag awdurdod lleol, ond rydym mor falch o ddweud bod ein profiad wedi bod yn wych. Mae’r gefnogaeth yn wych ac mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gymuned gyda gofalwyr maeth eraill.”

Dywed Bev: “Rydyn ni'n gofalu am dri o blant, ac maen nhw wrth eu bodd yma. Maen nhw'n mynd i'w hysgol leol, yn gweld eu ffrindiau a'u teuluoedd genedigol. Mae’r cysylltiad hwnnw mor bwysig. Er efallai na fydd y plant hyn gyda ni am eu bywydau cyfan, fe fyddan nhw bob amser mewn lle sy’n teimlo fel cartref. A dyna hanfod maethu.”

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Ar hyn o bryd mae 96 o blant mewn gofal maeth a 70 o ofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent, ond mae angen mwy o ofalwyr bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: https://fosterwales.blaenau-gwent.gov.uk/cy/cysylltu-a-ni/ https://fosterwales.gov.wales/ e-bost fostering@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch ein Llinell Ymholiadau: 01495 369620