Plant Ysgol Lleol yn Creu Llyfrau gyda Neges Ddifrifol

Ysgrifennwyd ‘The Colossal Cat’ gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Pantside, ac mae’n adrodd hanes Colin y Gath sydd, un diwrnod, yn sylweddoli bod angen iddo wneud newidiadau mawr i’w ddiet a’i ffordd o fyw os yw eisiau gallu teimlo’n hapus ac yn iach unwaith eto. Bydd y llyfr hwn yn helpu teuluoedd i drafod yn sensitif faterion a all achosi gordewdra a’u hysbrydoli i fyw bywyd iachach.

Gyda chynnydd mewn cyfeillgarwch rhwng y cenedlaethau ledled Gwent a cholled anochel ffrindiau hŷn, mae The Elephant in the Room, a ysgrifennwyd gyda disgyblion Ysgol Gynradd Georgetown, yn ystyried sut allwn orau helpu plant i ymdopi gyda’u teimlad o golled drwy gadw sianeli cyfathrebu yn agored a defnyddio iaith syml, blaen.

Bydd y llyfr hwn yn mynd gyda gwaith gwych menter Ffrind i mi/Friend of mine® sy’n ceisio trechu unigedd cymdeithasol ac unigrwydd ledled Gwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’r ddau deitl yma yn dilyn Billy the Superhero, llyfr a ysgrifennwyd ac a ddatblygwyd gan blant ysgol lleol yn 2018 gyda’r nod o gyflwyno pwnc iechyd a gofal cymdeithasol i blant eraill yng Ngwent a thu hwnt ac annog plant i feddwl am yrfa yn y sector. Fel yn achos Billy the Superhero bydd y teitlau hyn yn cael eu rhannu gyda llyfrgelloedd, ysgolion a meddygfeydd ar draws Gwent a thu hwnt.

Mae’r prosiect hefyd wedi cefnogi disgyblion Blwyddyn Chwech yn y ddwy ysgol i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd ac adrodd straeon a chodi eu dyheadau.

Meddai Mr Morgans, athro dosbarth yn Ysgol Gynradd Georgetown:

“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn brofiad anhygoel o werthfawr. Mae’r disgyblion wedi gallu trafod pwnc sensitif yn hyderus ac maent wedi dysgu llawer iawn am y proffesiwn ysgrifennu / cyhoeddi. Wrth wylio’r plant yn gweithio gydag awduron ac arlunwyr, rwyf wedi gweld brwdfrydedd gwirioneddol yn datblygu ymhlith y plant i ddilyn gyrfa o’r fath. Nid oes amheuaeth bod y disgyblion wedi eu hysbrydoli gan y tîm yn Petra, sy’n sicr wedi codi dyheadau!”

Bydd y ddau lyfr yn cael eu lansio’n swyddogol ar 19eg Rhagfyr yn Sefydliad y Glowyr Llanhilleth yn Abertyleri a byddant ar gael i’w harchebu gan Petra Publishing gyda’r holl arian a godir yn mynd tuag at deitlau eraill yn y dyfodol. https://www.petrapublishing.org

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Ffrind i Mi, ewch i’r wefan: www.ffrindimi.co.uk