PiQ - Dyfarnu Grant Busnes

Gydag effeithiau trychinebus alergeddau yn parhau yn y penawdau, mae busnes yng Nghymru yn helpu'r diwydiant bwyd i ymladd yn ôl.
Credir fod hyd at 8% o blant Prydain a 2% o oedolion yn dioddef o alergedd bwyd - ac mae'r broblem yn cynyddu.

Mae PiQ Laboratories, sy'n seiliedig yng Nghanolfan Arloesedd Glynebwy (EVIC) United Kingdom Steel Enterprise (UKSE), yn gweithio gyda gwneuthurwyr bwyd i brofi am alergenau i'w helpu gwneud yn siŵr fod labeli'n gywir a bod bwyd yn ddiogel.

Dywedodd Ashleigh Hirst-Kowles, Rheolwr Labordy PiQ, fod alergeddau yn fygythiad brawychus a chynyddol. Alergedd yw'r clefyd cronig mwyaf cyffredin yn Ewrop gyda'r Deyrnas Unedig yn dioddef o rai o gyfraddau mynychder uchaf y byd am gyflyrau alergedd," meddai.

Yn ogystal â phrofion alergedd, mae PiQ - a achredwyd gan UKAS - yn gweithio gyda gwneuthurwyr bwyd i sicrhau ansawdd a dilysrwydd - sydd hefyd yn faterion pwysig y dyddiau hyn.
"Yn 2013 roedd y sgandal am gig ceffyl ac mae problemau am labelu pysgod wedi bod yn y newyddion.
"Mae gwneuthurwyr a mân-werthwyr eisiau gwybod fod bwyd yn ddiogel a'i fod yr hyn mae'n hawlio bod ar y label," meddai.

Sefydlwyd y labordy newydd yn EVIC y llynedd ac mae PiQ wrth eu bodd gyda'r lleoliad a'r gefnogaeth a gafwyd gan UKSE. "Fe wnaethom dreulio peth amser yn ceisio dod o hyd i'r lleoliad cywir," meddai Ashleigh. "Roedd rhai lleoedd gwych nad oedd eisiau labordy ar eu safle, ond roedd EVIC yn wych. Roedd y staff yma'n hapus iawn i weithio gyda ni a'n helpu i sefydlu."

Dywedodd Martin Palmer o UKSE ei fod yn falch iawn fod PiQ wedi dewis EVIC yn ganolfan. "Mae hwn yn gwmni arloesol a blaengar, y math o fusnes y cafodd EVIC ei gynllunio ar eu cyfer.
"Rwy'n falch iawn y byddant yn cynyddu eu gweithlu gan roi cyfleoedd sgilgar ar gyfer pobl leol a dymunaf bob llwyddiant iddynt."

Derbyniodd y busnes grant £1000 Kickstart Plus, a ddarparwyd ar y cyd gan UKSE a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gefnogi eu buddsoddiad yn y labordy.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
"Rwy'n falch dweud i fusnes arall o ardal Blaenau Gwent fanteisio o gynllun grant Kick Start Plus. Rydym yn parhau i gefnogi busnesau lleol, byddent yn rhai presennol neu newydd. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Labordy PiQ. Caiff y cynllun grant ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng y Cyngor ac UKSE. P'un ai ydych yn fusnes newydd neu bresennol, cysylltwch os gwelwch yn ddâ â'n Tîm Adfywio ac edrych ar wefan Cyngor Blaenau Gwent i gael mwy o wybodaeth. Rydym hefyd yn annog busnesau i gofrestru ar gyfer Hyb Busnes am ddim y Cyngor, lle mae cefnogaeth a gwybodaeth ar gael i fusnesau".

Mae PiQ yn cyflogi 5 o staff ac mae ganddo gynlluniau i gyflogi gwyddonydd arall yn ogystal â thechnegwyr labordy. "Rydym yn hyderus y gallwn ddod o hyd i'r bobl iawn yn lleol ac yn falch iawn i ni ddewis EVIC yn gartref ," ychwanegodd Ashley.

Mae busnes yn  ehangu'n gyflym gyda chleientiaid ar draws y Deyrnas Unedig ac yn Sbaen ac Iwerddon.
Dywedodd fod gwasanaeth personol yn allweddol i'w llwyddiant. "Gall fod yn amser anodd iawn os oes gan gleientiaid broblem gyda'u cynnyrch a dyna pam maent angen llawer o gefnogaeth. Rydym bob amser yn mynd yr ail filltir i gael yr atebion maent eu hangen a'u helpu i ddatrys problemau.

"Mae cleientiaid yn gwybod ein bod yn ofalus iawn yn ein gwaith ac y gallant fod yn hyderus fod ein canlyniadau yn gywir a dibynadwy."