Penodi Partner Datblygu a Buddsoddi

Mae cynghorau Torfaen a Blaenau Gwent wedi mynd cymeradwyo penodi Willmott Dixon Developments yn Bartner Datblygu a Buddsoddi Strategol, er mwyn bwrw ymlaen â’u cyfleoedd adfywio, buddsoddi a datblygu.

Gan weithio mewn partneriaeth â’r arbenigwr adfywio Cityheart, bydd Willmott Dixon Developments yn helpu i ganfod cyfleoedd, eu hasesu a’u datblygu er mwyn darparu cartrefi newydd, cyfleoedd cyflogaeth, gwella seilweithiau, mewnfuddsoddi a chreu manteision ehangach i gymunedau yn ardaloedd y ddau gyngor.

Bydd y bartneriaeth yn mynd ati i adolygu safleoedd strategol ar draws Torfaen a Blaenau Gwent yn ystod y 12 mis nesaf, gan helpu i ganfod cyfleoedd i ddatblygu a buddsoddi, a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cydgynllun Datblygu Lleol.

Sefydlwyd y Bartneriaeth Datblygu a Buddsoddi Strategol er mwyn darparu mwy o arbenigedd yn y maes datblygu a deall mwy am gapasiti a buddsoddi, a hynny wrth sicrhau bod y ddau gyngor yn cadw rheolaeth dros benderfyniadau allweddol sy'n ymwneud â thir, cyllid a’r dasg o gymeradwyo prosiectau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r ddau gyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn ein cymunedau. Mae gwaith adfywio a phrosiectau sy'n cyd-fynd ag egwyddorion Marmot ac yn cyflawni'r amcanion llesiant yn ein Cynllun Sirol, yn rhan ganolog o'r ffordd rydym yn mynd ati i yrru twf economaidd.

"Bydd partneriaeth strategol yn gweithredu fel mecanwaith cyflawni allweddol i wireddu’r uchelgais, sbarduno’r adfywio, gwneud y mwyaf o gyfleoedd datblygu cymhleth,  defnyddio buddsoddiadau allanol i’r eithaf a datgloi cyfleoedd i ddarparu tai o safon a swyddi sylweddol."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod o Gabinet Economi a Lle, Cyngor Blaenau Gwent: "Mae'r bartneriaeth hon yn gam pwysig i'n helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Blaenau Gwent a Thorfaen, ein partner ffederal. Trwy gyfuno ein gwybodaeth a'n gweledigaeth leol ag arbenigedd yn y maes datblygu, gallwn gyflymu prosiectau adfywio, denu buddsoddiad pellach a chreu cyfleoedd sydd o fudd i'n cymunedau ar gyfer cenedlaethau i ddod.

"Mae ein ffocws yn parhau i fod ar ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, gwella seilwaith, cefnogi busnesau lleol a chreu'r amodau ar gyfer twf economaidd cynaliadwy. Bydd gweithio gyda phartner strategol yn cyfnerthu ein gallu i ddatgloi safleoedd cymhleth a chyflwyno prosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion ledled y fwrdeistref sirol."

Bydd Willmott Dixon Developments yn cyflawni'r rôl mewn partneriaeth â Cityheart, gan fanteisio ar brofiad y ddau sefydliad o ran cyflwyno prosiectau cymhleth yn y maes adfywio a datblygu.

Dywedodd Chris Wheeler, Pennaeth Datblygu Cenedlaethol (Adfywio), Willmott Dixon Developments: "Rydym yn falch o gael ein penodi'n Bartner Datblygu a Buddsoddi ar gyfer Blaenau Gwent a Thorfaen.

"Gan weithio ochr yn ochr â Cityheart, byddwn yn cefnogi'r ddau gyngor i adolygu’r portffolio safleoedd strategol cychwynnol a chanfod cyfleoedd a all greu manteision parhaol i gymunedau lleol.

"Mae gan Grŵp ehangach Willmott Dixon gysylltiadau cryf â'r rhanbarth eisoes, am eu bod wedi cyflawni prosiectau sy’n cynnwys Swyddfa Cofnodion ac Archifau Gwent a Chanolfan Hamdden Glynebwy, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cysylltiad hwnnw.”

Meddai Benji Slater, Cyfarwyddwr Datblygu cwmni Cityheart: “Mae'r bartneriaeth rhwng Willmott Dixon Developments a Cityheart yn adlewyrchu’r ymrwymiad yr ydym yn ei rhannu i weithio ochr yn ochr â chynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen. Dyma ddau awdurdod sydd â gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol eu cymunedau.

“Y rhan hon o Gymru lywiodd y byd diwydiannol, ac mae gennym gyfle prin i adeiladu ar yr etifeddiaeth honno a'r balchder lleol, trwy ddatgloi buddsoddiad hirdymor, creu cartrefi a swyddi newydd, a gadael gwaddol a fydd yn parhau am genedlaethau. Mae'n gyfle hynod gyffrous, ac ni allwn aros i ddechrau.”

Llun: Benji Slater, Y Cynghorydd John Morgan, Y Cynghorydd Joanne Gauden, Chris Wheeler

Ynglŷn â Willmott Dixon Developments

Willmott Dixon Developments yw busnes datblygu ac adfywio Grŵp Willmott Dixon, sy'n helpu partneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat i wireddu’u huchelgais i greu prosiectau hyfyw y gellir eu cyllido a’u cyflawni.

Gan gyfuno arbenigedd yn y meysydd datblygu, adfywio, buddsoddi, cyllido a chyflawni, mae'r busnes yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid; o egin-brosiectau i leoedd sy'n creu gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn y tymor hir. Gyda chefnogaeth,  cryfder a sefydlogrwydd Grŵp Willmott Dixon sydd yn gwmni preifat a sefydlwyd ym 1852, mae'n dwyn ynghyd arbenigedd yn y maes datblygu, ochr yn ochr â chapasiti ac enw da un o gwmnïau adeiladu ac eiddo mwyaf dibynadwy'r DU.

Ynglŷn â Cityheart

Mae Cityheart yn arbenigwr adfywio sy'n gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ail-greu ac adfywio lleoedd. Gydag enw da a phrosiectau ledled y wlad, gan gynnwys cynlluniau yn Stockport, Wigan, Widnes, Hemel Hempstead, Bishops Stortford a Darlington, mae'n darparu datblygiadau cynaliadwy sy'n grymuso cymunedau ac yn creu gwerth parhaol.