Penodi Contractiwr i adeiladu Ysgol Gynradd newydd yn Six

Cadarnhawyd y bydd Morgan Sindall, sydd wedi bod yn gweithio ar y gwaith cyn-adeiladu a dylunio'r prosiect, yn parhau i weithio ar yr ail gam gan gynnwys prif adeilad yr ysgol a'r gwaith carthffosiaeth cysylltiedig. Fel rhan o waith ymchwilio'r safle cyn-adeiladu, darganfuwyd y byddai angen dargyfeirio carthffos Dŵr Cymru i ganiatáu adeiladu'r ysgol. Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle o fewn y pythefnos nesaf a'r nod yw cwblhau'r ysgol newydd o £8 miliwn mewn pryd i'w hagor yn nhymor yr hydref 2019. Bydd gwaith ar brif adeilad yr ysgol yn dechrau ym mis Gorffennaf.

Bydd yr ysgol newydd yn croesawu disgyblion o gampysau Cymuned Ddysgu Abertyleri sef Heol Bryngwyn a Stryd y Frenhines, gan roi mynediad iddynt i amgylchedd dysgu modern gyda chyfleusterau awyr agored. Mae'r gwaith yn rhan o Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru sy'n anelu at godi safonau'r ystad ysgol yng Nghymru i safonau addysgol modern.

Cafwyd cefnogaeth unfrydol gan y Cyngor Llawn i roi arian cyfalaf ychwanegol i'r prosiect i gwrdd â diffyg arian, a achosir yn bennaf gan gostau gwaith carthffosiaeth ychwanegol.

Meddai'r Cynghorydd Clive Meredith, Aelod Gweithredol dros Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

"Clustnodwyd safle Glofa Six Bells gynt ar gyfer datblygiad addysgol neu hamdden ers y 1990au, felly mae'n wych gweld y prosiect hwn yn symud ymlaen i'r cam nesaf. Cafwyd ychydig o oedi gyda'r gwaith adeiladu, fel gyda llawer o brosiectau o'r maint hwn, ond rydym wedi parhau i ymrwymo i gyflwyno'r ysgol newydd hon sydd ei hangen ar gyfer plant a phobl ifanc Six Bells a'r ardaloedd cyfagos.

Fel Cyngor, fe gymerom ni hefyd yr amser i weithio'n agos gyda chynrychiolwyr enwebedig o'r ardal leol i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon a oedd ganddynt dros fynediad i Gofeb y Guardian a pharcio, gan ein bod o'r farn bod hyn yn rhan bwysig o ymgysylltu â'r gymuned.

Mae Ysgol Gynradd Six Bells yn rhan allweddol o raglen foderneiddio Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif ac o ymgyrch barhaus y Cyngor i wella safonau addysg yma ym Mlaenau Gwent a chodi dyheadau ein plant a'n pobl ifanc."

Bydd dyluniad yr ysgol newydd yn cyd-fynd ag amgylchedd yr ardal leol sydd o bwys hanesyddol a diwylliannol sylweddol i Flaenau Gwent.

Agorodd Cymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Medi 2016 a gwelodd bum ysgol yn ardal Abertyleri yn dod ynghyd fel un Gymuned 3 -16, ond yn cadw'r safleoedd presennol. Yr ysgolion a ddaeth ynghyd oedd Ysgol Gyfun Abertyleri (campws uwchradd bellach); Ysgol Gynradd Abertyleri (bellach Campws Stryd Tillery); Ysgol Gynradd Bryngwyn (bellach Campws Ffordd Bryngwyn); Ysgol Gynradd Stryd y Frenhines (Campws Stryd y Frenhines) ac Ysgol Mileniwm Roseheyworth (erbyn hyn Campws Ffordd Roseheyworth).