Paratoi Cymru am Brexit heb gytundeb

Ers refferendwm 2016, rydym wedi bod yn gweithio’n adeiladol yng Nghymru, San Steffan a Brwsel i sicrhau cytundeb sy’n gweithio i Gymru, sy’n gwarchod ein pobl, ein heconomi a’n hamgylchedd. Ond, wrth iddi ddod yn fwy amlwg bod ymadael heb gytundeb yn bosibilrwydd real, rydym wedi dwysáu ein paratoadau er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru a’i phobl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi gweledigaeth glir ar gyfer Brexit sy’n blaenoriaethu swyddi, yr economi, a buddiannau Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru.

https://beta.llyw.cymru/paratoi-cymru?_ga=2.181407791.989855715.1548164056-159966308.1449063940