Pam ailgylchu pwmpenni ac beth ddylwn i ei wneud gyda fy mhwmpenni

Pam ailgylchu pwmpenni?

Mae tua 210,000 tunnell o wastraff bwyd o gartrefi yn mynd i domen lanw bob blwyddyn, sy'n cyfrannu at greu methan, nwy tŷ gwydr gwenwynig. Pan fyddwn yn ailgylchu pwmpenni, neu unrhyw fwyd ym Mlaenau Gwent, caiff ei anfon at safle prosesu treulio anaerobig. Mae treulio anaerobig yn cynnwys ymddatodiad naturiol bwyd i nwy methan a charbon deuocsid ond yn lle dianc i'r awyrgylch, caiff y nwyon hyn eu defnyddio i gynhyrchu trydan. Gellir wedyn ddefnyddio'r trydan ar gyfer twymo a thrydan mewn cartrefi yn y gymuned leol. Gall hefyd gynhyrchu gwrtaith y gellir ei ddefnyddio mewn amaethyddiaeth. Er enghraifft; gallai:

  • Un pwmpen wedi'i ailgylchu gynhyrchu digon o drydan i redeg teledu am dair awr

  • Gallai ailgylchu un pwmpen gynhyrchu digon o drydan i redeg sychwr gwallt am 13 munud.

 

Beth ddylwn i ei wneud gyda fy mhwmpenni? Pan fyddwch yn cerfio eich pwmpen Calan Gaeaf, peidiwch taflu'r hadau yn y canol - ailgylchwch nhw neu, hyd yn oed yn well, gostyngwch fwy fyth ar eich gwastraff drwy wneud rhywbeth blasus a iach allan o'r tu allan, fel y Cawl Pwmpen Sbeislyd yma.

Cawl Pwmpen Sbeislyd

 Amser paratoi - 5 munud

Amser gweini - 60 munud

Digon i 1

 

Cynhwysion

Hanner pwmpen

1 taten felys

½ pupur coch

1½ cwpan (375 ml) dŵr

1 cwpan (250 ml) llaeth braster llawn

1 chili coch

Pinsiaid halen a phupur ar gyfer sesnin

 

Dull

  1. Twymo'r ffwrn ymlaen llaw i 190o Celsius.

  2. Tynnu cynnwys y bwmpen allan gyda llwy a phlicio'r daten felys.

  3. Torri'r bwmpen a thaten flys i giwbiau 1 modfedd.

  4. Tafellu'r pupur coch a rhoi'r holl lysiau ar hambwrdd rhostio gyda diferyn o olew

  5. Rhoi yn y ffwrn i rostio am 30-40 munud, nes bydd yn feddal.

  6. Gadael i'r holl lysiau oeri ychydig.

  7. Unwaith y bydd wedi oeri digon i'w drin, ychwanegu'r bwmpen, taten felys a'r pupur coch i beiriant blendio gyda'r dŵr, llaeth a chilli mân, a blendio nes bydd yn feddal.

  8. Tywallt i sosban a thwymo nes bydd yn boeth, gan ychwanegu fwy o ddŵr os ydych yn hoffi cawl ychydig yn deneuach.

  9. Ychwanegu halen a phupur at eich dant.

     

    Awgrym i'r cogydd: I wneud y cawl yn felysach, rhostiwch y bwmpen a'r daten felys nes byddant yn dywyll ac wedi caramaleiddio. Mae'n bwysig gadael i'r llysiau oeri cyn rhoi mewn yn y peiriant blendio gan y gallai pwysedd y stêm greu llanastr yn y gegin!

     

    Ychwanegu: Os oes gennych lysiau ar ôl, ychwanegwch nhw at y cawl.

     

    Amrywiadau: Gallwch weini gyda croutons garlleg neu ychydig o dafelli o fara a menyn. Gallwch hefyd amrywio'r cynhwysion drwy ddefnyddio pwmpen cnau melyn yn lle, neu'n ychwanegol, at y bwmpen calan gaeaf!

     

    Blas ychwanegol: Gall ychwanegu eich cymysgedd eich hun o pherlysiau a sbeisiau fel coriander, cwmin, oregano neu hadau ffenigl ychwanegu llawer at y saig yma.

     

    Cyngor am rewi: Mae'n syniad gwych rhewi dognau o'r cawl hwn, fydd yn eich galluogi i cael cawl cartref yn y dyfodol heb yr amser paratoi.

     

    Opsiwn fegan: I addasu'r saig ar gyfer pobl sy'n fegan, defnyddiwch stoc llysiau neu laeth cnau coco yn lle'r llaeth braster llawn. Byddant yn rhoi blas gwahanol.

     

    Cyngor ar alergedd: Mae'n rhwydd addasu'r saig hyblyg yma i osgoi alergeddau a bod yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddeietau.

     

    Peidiwch anghofio y gallwn gasglu eich pwmpen ar ôl Calan Gaeaf. Torrwch eich pwmpen yn ddarnau a'u rhoi yn eich cadi bwyd neu roi'r bwmpen gyfan yn ymyl y cadw. Byddwn yn eu casglu ar eich diwrnod ailgylchu arferol ar ôl Calan Gaeaf.