Noswaith Gwobrau Anelu'n Uchel 2018

Cynhaliwyd noswaith arall wych yn y Gwobrau Anelu'n Uchel wrth i brentisiaid a chyflogwyr o Raglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel ddod ynghyd i ddathlu blwyddyn arall lwyddiannus. Cynhaliwyd y seremoni Wobrwyo yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy ar 29 Tachwedd 2018 gyda dros 120 o bobl yn bresennol yn cynnwys prentisiaid, cyflogwyr nawdd a phartneriaid lleol.

Cyflwynwyd tystysgrifau cydnabyddiaeth i brentisiaeth sydd wedi cwblhau fframweithiau'n llwyddiannus ac wedi dechrau ar gyflogaeth lawn-amser. Dilynwyd hyn gan gyflwyniadau i'r prentisiaid llwyddiannus yma sy'n cwblhau blynyddoedd un, dau a thri y rhaglen. Croesawodd Andrew Bevan, Cydlynydd y Rhaglen, hefyd bedwerydd cohort newydd o brentisiaid i'r rhaglen.

Ar y noswaith derbyniodd deuddeg o brentisiaid a thri cyflogwr nawdd wobrau mewn amrywiaeth o gategorïau. Fodd bynnag enillwyr y prif gategorïau gwobrau oedd:

Categori Gwobr 2018EnillyddCwmni
Seren LacharJordan BakerGTEM
Model Rôl RhagorolJordan Impey Eurocaps Cyf
Gwobr Mentoriaid Anelu'n Uchel Blaenau GwentMacauley Webber PCI Pharma
Cyflogwr Nawdd y FlwyddynPCI Pharma 
Prentis y Flwyddyn Declan Hughes Continental Teves

Enillodd gwobr Prentis y Flwyddyn eleni oedd Declan Hughes ac fe'i cyflwynwyd iddo gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Cafodd Declan, prentis yn Continental Teves, ei enwebu gan ei reolwr llinell a soniodd am foeseg gwaith Declan a'i ymrwymiad i'r cwmni a hefyd ei waith damcaniaeth ac ymarferol yn y coleg.

Sefydlwyd y cynllun rhwng diwydiant, addysg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Caiff ei gyllido drwy Lywodraeth Cymru a Pharth Menter Glynebwy i hwyluso a chefnogi busnesau lleol drwy recriwtio prentisiaid, gyda'r nod o lenwi'r bwlch sgiliau cynyddol o fewn gweithgynhyrchu lleol. Gyda ffocws dechreuol ar beirianneg, mae'r rhaglen yn awr wedi datblygu i ddarparu lleoliadau prentisiaeth am ystod eang o feysydd sy'n cynnwys llwybrau prentisiaeth Peirianneg Mecanyddol, Ariannol, Technoleg Gwybodaeth a Masnachol.

Dywedodd y Cyng David Davies, Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

"Hoffwn longyfarch ar yr holl brentisiaid a chyflogwyr a enillodd wobrau a phawb a gymerodd ran wrth greu rhaglen mor arloesol, sy'n mynd i'r afael ag anghenion busnesau a hefyd brentisiaid ym Mlaenau Gwent.

Mae'n hanfodol fod prentisiaid yn datblygu sgiliau newydd, nid yn unig mewn amgylchedd ystafell ddosbarth, ond hefyd y profiadau bywyd go iawn mai dim ond yn y gweithle y gellir eu dysgu. Mae Anelu'n Uchel yn uno'r ddau osodiad hyn i sicrhau fod gweithlu medrus iawn ar gyfer y dyfodol.

Mae Anelu'n Uchel yn gynllun rhagorol a welodd gyflogwyr, darparwyr addysg, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ddarparu prentisiaid yn yr ardal. Aeth o nerth i nerth yn ddiweddar gyda llawer o gyflogwyr newydd yn ymuno.

Mae hyn yn sicrhau fod cyfleoedd hyfforddiant ardderchog ar gyfer pobl ym Mlaenau Gwent, yn ogystal â sicrhau y gall cyflogwyr ddod o hyd i bobl gyda'r sgiliau cywir i helpu eu busnesau i ffynnu. Mae hefyd nifer o gynlluniau newydd ar y gorwel fydd yn hybu'r rhaglen, yn cynnwys Canolfan Technoleg a Hyb Dysgu, fydd yn ddelfrydol i brentisiaid a chwmnïau ddatblygu."