Nid oes angen i chi warchod ar ôl 16 Awst

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud y gall y bobl hynny sydd fwyaf mewn risg o’r coronafeirws roi’r gorau i warchod ar ôl 16 Awst 2020. Bydd y rhai sy’n gwarchod ar hyn o bryd yn derbyn llythyr, a elwir yn ‘llythyr gwarchod’ fydd yn eu hysbysu am y datblygiad hwn a beth i’w wneud nesaf.

Bydd y gwasanaeth dosbarthu bwyd uniongyrchol presennol ar gyfer y rhai sy’n gwarchod hefyd yn dod i ben. Fodd bynnag, anfonir manylion y bobl a dderbyniodd lythyr gwarchod at bob archfarchnad sy’n cynnig dosbarthu i gartrefi yng Nghymru. Wedyn cynigir slotiau dosbarthu blaenoriaeth i’r rhai yr ystyrir eu bod yn neilltuol o fregus i’r coronafeirws. Gallwch gofrestru am wasanaethau dosbarthu i gartrefi drwy wefannau’r archfarchnadoedd. Mae’r llythyr yn esbonio y dylech gysylltu â’r cyngor os na fedrwch gael cyflenwadau hanfodol neu os na all perthnasau a chyfeillion eich helpu gyda siopa.

I gael help a chymorth ar ôl 16 Awst:
Ffôn  - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: 01495 311556.

Mwy o wybodaeth ar gael:
Llywodraeth Cymru  - Cael bwyd a chyflenwadau hanfodol yn ystod y pandemig coronafeirws
Cyngor Blaenau Gwent – Taflen Nid oes raid i chi warchod ar ôl 16 Awst