Newyddion cyffrous! Mae Llyfrgell Abertyleri yn Symud

Mae Llyfrgell a Chanolfan Gweithredu Dysgu Abertyleri yn symud i ganol tref Abertyleri.

O ddydd Mawrth, 17 Medi byddan nhw yn eu cartref newydd yng Nghapel y Drindod - Llyfrgell a Chanolfan Addysg Gymunedol Abertyleri, Capel y Drindod, Stryd yr Eglwys, Abertyleri NP13 1DB.

Bydd gan Lyfrgell a Chanolfan Addysg Gymunedol newydd Abertyleri yr un tîm gwych yn eich cynorthwyo ac, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ewch Aneurin Leisure lle gallwch chi ddod o hyd i gwestiynau cyffredin ar lyfrgelloedd a dysgu.

Bydd y llyfrgell bresennol ar gau am bythefnos i helpu gyda’r broses o symud i Gapel y Drindod o 31 Awst 2024, gyda'r llyfrgell newydd yn ailagor ddydd Mawrth, 17 Medi 2024.

Bydd y gwasanaeth yn gwneud eu gorau i achosi cyn lleied â phosibl o anghyfleustra i chi, a gallwch chi fenthyg llyfrau ychwanegol heb boeni am y dyddiad dychwelyd gan na fydd unrhyw ffioedd hwyr.

Bydd Hyb Cymunedol y Cyngor yn Abertyleri hefyd yn symud i'r llyfrgell newydd yng Nghapel y Drindod. Bydd yr Hyb, lle gall preswylwyr gael mynediad i amrywiaeth o wasanaethau'r Cyngor wyneb yn wyneb, ar gau o 5pm ddydd Gwener, 30 Awst nes iddi ailagor yn y safle newydd ddydd Mawrth, 17 Medi.

Gallwch gael mynediad i'n Hybiau Cymunedol eraill mewn llyfrgelloedd ledled y fwrdeistref, manylion yma.

Gallwch gysylltu â ni fel arfer dros y ffôn 01495 311556 neu e-bost info@blaenau-gwent.gov.uk