Newidiadau yn y bagiau cadi gwastraff bwyd

O’r wythnos hon ymlaen, bydd trigolion Blaenau Gwent yn gweld newid yn eu bagiau cadi gwastraff bwyd.

Mae newid yn y dull o ailgylchu gwastraff bwyd y fwrdeistref yn golygu y gall trigolion ailddefnyddio bagiau torth neu fagiau tebyg yn y cadi gwastraff bwyd. Bydd bagiau yn parhau i gael eu darparu, ond byddant wedi eu gwneud o blastig wedi ei ailgylchu (i’r sawl sydd eisiau eu defnyddio).

Bydd y bagiau newydd yn disodli’r rhai startsh grawn a ddefnyddiwyd yn flaenorol.  Fodd bynnag, os oes gan drigolion gyflenwad o’r hen rai o hyd, gellir parhau i’w defnyddio nes byddant yn rhedeg allan.

Mae Blaenau Gwent wedi caffael triniaeth Treuliad Anaerobig (AD) ar gyfer gwastraff bwyd mewn partneriaeth â chynghorau Torfaen a Sir Fynwy oherwydd mai dyma ffordd mwyaf cynaliadwy ac economaidd o drin gwastraff bwyd. Yn ystod y broses AD mewn gwastraff bwyd yn cael eu dorri i lawr i greu methan sydd wedyn yn cynhyrchu trydan. Fel rhan o’r broses, mae gwrtaith cyfoethog yn cael ei greu hefyd a ddefnyddir ar ffermydd lleol.

Ar ddechrau’r broses AD, mae’r gwastraff bwyd yn cael ei dynnu o’r bagiau, mae’r bagiau yn cael eu gwasgu’n sych a’u hanfon i gyfleustra Ynni o Wastraff (EfW) i gynhyrchu trydan. Ni all y broses AD ddelio gyda bagiau sy’n compostio a ddarparwyd i’r trigolion gan y cyngor yn flaenorol. Fel partneriaeth, mae’r cyngor ar hyn o bryd yn cyd-gaffael bagiau cadi gwastraff bwyd er mwyn medru cael mwy o arbedion ariannol. 

Oherwydd y newidiadau mewn bagiau gwastraff bwyd, anogir trigolion i ail-ddefnyddio eu hen fagiau plastig megis bagiau bara, bagiau bwyd i’w rewi, bagiau tatws a grawnfwyd yn y cadi gwastraff bwyd cyn cyrraedd am y bagiau a ddarperir gan y cyngor.