Newidiadau i'r Disgownt ar y Dreth Gyngor

Newidiadau i'r Disgownt ar y Dreth Gyngor
Cyngor yn gweithio i ddod ag anheddau'n ôl i ddefnydd

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cytuno ar newid i'r disgownt ar y Dreth Gyngor a gynigir ar hyn o bryd i berchnogion anheddau gwag yn y fwrdeistref sirol. O fis Ebrill 2020 bydd perchnogion anheddau yn talu'r Dreth Gyngor lawn ar anheddau a fu'n wag am dros chwe mis - maent yn talu 50% o'r bil ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae perchnogion anheddau yn dal i fod wedi'u heithrio rhag talu unrhyw Dreth Gyngor am y chwe mis cyntaf y mae annedd yn wag.

Mae llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes wedi cymryd y cam pwysig hwn wrth annog anheddau gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd i adfywio cymunedau a darparu tai o safon. Mae nifer o gynlluniau cymhelliant lle gall perchnogion gael mynediad i gyllid i adnewyddu anheddau gyda golwg ar ddod â nhw'n ôl i ddefnydd.

• Mae Cyngor Blaenau Gwent, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, yn darparu benthyciadau di-log i landlordiaid i ddod ag anheddau rhent preifat i fyny i'r safon neu ddod ag anheddau gwag yn ôl i ddefnydd. Mae'r benthyciadau hyn ar gyfer perchnogion sy'n dymuno gwerthu neu rentu'r annedd a gellir eu defnyddio ar gyfer anheddau neu drawsnewid adeiladau masnachol. Gall ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad hyd at £25,000 yr uned, gydag uchafswm o £250,000 fesul ymgeisydd. I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at housing@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio 01495 354600.

• Os dymunwch adnewyddu annedd wag i fyw ynddi eich hun, gallech fod yn gymwys am grant o hyd at £20,000 a gyllidir gan Dasglu Cymoedd Llywodraeth Cymru. Ewch i gov.wales/valleys-taskforce-empty-homes neu ffonio 01443 281118.

Mae'r Cyngor yn frwdfrydig am weithio gyda chymunedau a phartneriaid i ddod ag anheddau gwag yn ôl i ddefnydd. Mewn blynyddoedd diweddar rydym wedi gwneud 66 benthyciad yn werth £941,727 i ddod ag anheddau gwag yn ôl i ddefnydd.

I gael cyngor ar ddod ag annedd wag yn ôl i ddefnydd cysylltwch â Rhian Evans, ein Swyddog Anheddau Gwag, ar 01495 357813 neu anfon e-bost at
Rhian.evans@blaenau-gwent.gov.uk