Natur Wyllt yn dychwelyd ar gyfer 2024.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn falch i gyhoeddi bod Natur Wyllt yn dychwelyd ar gyfer 2024.

Mae Natur Wyllt yn hyrwyddo manteision gadael i natur wneud ei pheth mewn mannau gwyrdd ar draws Blaenau Gwent trwy leihau torri'r glaswellt a gadael i flodau gwyllt dyfu.

Mae Natur Wyllt yn hyrwyddo manteision gadael i natur dyfu’n naturiol mewn mannau gwyrdd ledled Sir Fynwy drwy leihau torri gwair a gadael i flodau gwyllt dyfu. Mae’r dolydd bach hyn yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a dirywiad planhigion a pheillwyr ac yn rhoi cyfle i’n trigolion a llawer  mwy o bobl i brofi byd natur.

Mae cysylltu â natur a threulio mwy o amser mewn mannau gwyrdd o fudd mawr i iechyd a lles meddyliol a chorfforol pobl.

Nid yw ardaloedd Natur Wyllt yn wych ar gyfer bywyd gwyllt yn unig, ond drwy adael i’r glaswellt dyfu’n hirach, mae’n storio mwy o garbon yn y pridd ac yn helpu i gynyddu ein gallu i wrthsefyll sychder a llifogydd.

Mae gan drigolion lleol, grwpiau cymunedol, a busnesau rôl hanfodol wrth gefnogi cadwraeth blodau gwyllt a phryfed peillio ar draws Blaenau Gwent.

Os ydych chi eisiau cymorth i greu eich dôl eich hun, yna mae’r prosiect Natur Wyllt yn lansio pecyn adnoddau newydd yn llawn llawer o ganllawiau ac awgrymiadau i’ch rhoi ar ben ffordd.

Mae creu gofodau llawn natur hefyd yn ymwneud â dod â phobl a natur at ei gilydd.

Er y bydd llawer o leoedd yn cael eu gadael i dyfu yr haf hwn, mae llawer yn dal i gael eu rheoli ar gyfer hamdden, chwaraeon ac ar gyfer diogelwch ffyrdd a cherddwyr a byddant i gyd yn cael eu torri a’u casglu ar ddiwedd y flwyddyn.

Beth am gymryd rhan mewn ymdrechion cadwraeth dolydd ym Mlaenau Gwent, drwy rannu lluniau o fywyd gwyllt bendigedig neu roi arferion rheoli dolydd ar waith yn eich man gwyrdd eich hun?