Mwy o bobl yn hapus gyda chanol trefi glân

Dangosodd canlyniadau’r arolwg Golwg Strydoedd a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf bod mwy o bobl – 56% o bawb a arolygwyd – yn hapus gyda glanweithdra canol eu tref leol ac yn credu fod hyn wedi gwella’n fawr dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn nhermau glanweithdra eu hardal breswyl leol, roedd nifer y bobl a ddywedodd eu bod yn lân a thaclus wedi aros yr un fath – 34% o’r rhai a arolygwyd – gyda’r Cyngor yn cydnabod fod angen gwneud mwy o waith yn yr ardaloedd hynny.

Cafodd yr arolwg ei lenwi gan breswylwyr lleol yn ystod cyfres o sioeau teithio a gynhaliwyd o amgylch y fwrdeistref sirol a hefyd ar-lein drwy wefan y Cyngor.

Dangosodd arolwg annibynnol blynyddol ar wahân gan Cadw Cymru’n Daclus fod 92.4% o’r strydoedd a archwiliwyd ym Mlaenau Gwent yn bennaf rhydd o sbwriel heblaw am rai eitemau bach yn 2016/17 a hefyd 2017/18 – roedd hyn yn welliant pwysig o 88.3% yn 2015/16.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gwweithredol yr Amgylchedd ar Gyngor Blaenau Gwent:

 “Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg – roedd yn dda mynd allan a siarad gyda phobl am p’un ai yw’’r gwaith a’r adnoddau ychwanegol a glustnodwn I wella glendid strydoedd yn y fwrdeistref sirol yn gwneud gwahaniaeth. Roeddem yn falch gweld fod y newidiadau yn dechrau cael effaith, yn arbennig yn nhermau canol ein trefi. Mae’n bwysig cael canol trefi glân, taclus a deniadol er mwyn denu siopwyr a helpu busnesau lleol i ffynnu.

“Byddwn yn parhau i wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau i wella ein hardaloedd preswyl. Roedd yn galonogol gweld o siarad gyda phobl fod cydnabyddiaeth nad y Cyngor sy’n gyfrifol am bopeth ac y gall pawb chwarae eu rhan wrth gadw eu cymuned yn lân a thaclus a chael ymdeimlad o falchder am lle maent yn byw.

“Roedd yn amlwg iawn o’r arolwg fod cael amgylchedd byw glân a deniadol yn parhau’n flaenoriaeth bwysig iawn i bobl Blaenau Gwent. Mae hynny’n cryfhau ymhellach ein penderfyniad I fuddsoddi arian a llafur ychwanegol, ac y bydd hyn yn parhau I fod yn un o’n prif flaenoriaethau yn y dyfodol.”

Ym mis Hydref 2017 cytunodd gweinyddiaeth wleidyddol newydd y Cyngor I fuddsoddi £330,000 ychwanegol yn y gyllideb glanhau strydoedd. Roedd hyn yn ganlyniad adborth gan y cyhoedd y teimlent fod glanweithdra ac ymddangosiad cyffredinol yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt yn annerbyniol. Roedd hyn hefyd yn cynnwys pethau fel torri gwair, chwistrellu chwyn, baw cŵn a thipio anghyfreithlon yn ogystal â sbwriel cyffredinol.

Fel canlyniad cynyddwyd yr amserlen glanhau strydoedd I gynnwys glanhau canol trefi ar ddyddiau Saedwrn, cynyddu’r capasiti ar dimau glanhau  ac ychwanegu pumed tîm glanhau a chwistrellu chwyn.”