Metro Plus £50 miliwn

Mae fframwaith a chanddo’r nod o gyflenwi dull cydlynol o weithredu i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled rhanbarth De-ddwyrain Cymru gyfan wedi’i gadarnhau heddiw (Dydd Iau, y 1af o Awst) gan Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Bydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i sicrhau rhaglen Metro Plus De Cymru gwerth £50 miliwn o welliannau a mentrau ledled De Cymru, fydd yn cynnwys cyfraniadau gan y sector preifat. Mae’r rhaglen yn cydategu cynllun craidd gwerth £734 miliwn Metro De Cymru, sy’n cael ei gyflenwi gan Drafnidiaeth Cymru, ac mae gwaith arno hefyd wedi’i ddechrau.

Bydd Fframwaith Asesu Cyffredin (CAF) yn sicrhau na chaiff 10 cynllun Cam 1 y Metro Plus arfaethedig eu hystyried fel cynlluniau trafnidiaeth unigol, ond yn hytrach fel rhaglen o alluogi seilwaith i ysgogi twf economaidd ac adfywio’r rhanbarth drwy gynorthwyo symudedd pobl a sgiliau.

Bydd Cam 1 Rhaglen Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTA) y Metro Plus yn gweld pob un Awdurdod Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru yn derbyn cyfran o £3 miliwn tuag at weithredu cynlluniau yn eu hardal. Mae’r fframwaith drafft a gyhoeddwyd heddiw yn mynd ati i alluogi’r prosiectau hyn i gael eu datblygu mewn ffordd gynhwysfawr ond sydd wedi’i symleiddio, gan brofi’n gychwynnol ar gyfer ‘addasrwydd strategol’ ac wedyn yn datblygu drwy gyfres o byrth sy’n ceisio dangos agweddau ‘economaidd’, ‘cyflawnadwyedd’ a ‘fforddiadwyedd’ craidd pob un prosiect arfaethedig.

Yn ychwanegol, mae Llywodraeth Cymru yn paratoi Fframwaith Gwella Metro (MEF), yn seiliedig ar 13 o goridorau trafnidiaeth, fydd yn cynorthwyo i flaenoriaethu ymyriadau mewn trafnidiaeth ledled y rhanbarth. Bydd y fframwaith yn ceisio cynnwys a chydategu blaenoriaethau’r Fargen Ddinesig ynghyd â sicrhau bod yr holl gynlluniau’n ystyried y nodau mwy cyffredinol yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, teithio llesol, iechyd ac unrhyw bolisïau a strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.

Mae’r rhaglen o gynlluniau a gynigir yng Ngham 1 y Metro Plus yn cynnwys:

  • Creu ‘cyfnewidfeydd’ sy’n ymgorffori pob dull o deithio, gan weithredu fel canolfannau allweddol ar gyfer teithio;
  • Gwell cyfleusterau Parcio a Theithio, ynghyd â mannau gwefru trydan;

Rhwydweithiau Metro newydd ac estynedig fydd yn gallu agor a galluogi gwell mynediad at weithgareddau newydd a phresennol ar gyfer gwaith, hyfforddiant, addysg, diwylliant, adwerthu a hamdden.

Bydd Cam 1 yn gweld buddsoddiad gwerth £15 miliwn oddi wrth Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gyda chyd-fuddsoddiad o hyd at £15 miliwn oddi wrth Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru, yn amodol ar gylchoedd gwneud cynigiadau yn y dyfodol. Codir yr £20 miliwn sy’n weddill drwy gyfraniadau gan ddatblygwyr lleol, buddsoddiadau o’r sector preifat a chyfraniadau eraill megis cronfeydd cyfalaf cynghorau. Bydd y gwaith o gyflenwi’r rhaglen yn dechrau yn ystod 2019 ac fe fydd wedi’i gwblhau erbyn 2022.

Mae canlyniadau allweddol y rhaglen Metro Plus yn cynnwys: gwelliannau mewn hygyrchedd, gwelliannau i ardaloedd o amddifadedd, gwneud lle ar gyfer newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol, cefnogi trefydd a chymunedau ffyniannus, yn ogystal â gwella pob dull o deithio. Y prosiect Metro gwerth £734 miliwn yw conglfaen y Fargen Ddinesig £1.2 biliwn, sy’n creu seilwaith trafnidiaeth fydd yn helpu i alluogi amcanion cymdeithasol ac economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Cadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Bydd y Fframwaith Asesu Cyffredin drafft rydym wedi’i ddatblygu ar gyfer y Rhaglen Metro Plus yn helpu i gyflawni’n hamcanion sydd â’r nod o oresgyn tlodi ac amddifadedd, gwella rhwyddineb o gael at sgiliau, cynyddu cyfleoedd cyflogaeth a darparu gwell seilwaith, yn ogystal â chymunedau iachach.

"Gan gyd-fynd yn agos â Fframwaith Gwella Metro Llywodraeth Cymru, rydym yn hyderus y bydd y ffordd newydd hon o weithio yn llwyr gyflenwi buddion rhanbarth cyfan i Dde-ddwyrain Cymru gyfan."

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd y cynlluniau a gynigir drwy Gam 1 y Metro Plus yn defnyddio pob cyfle i ysgogi’n heconomi rhanbarthol.

"Bydd y Fframwaith Asesu Cyffredin drafft rydym wedi’i ddadlennu heddiw yn helpu i sicrhau nad yw’r 10 prosiect hyn yn cael eu hystyried ar eu pen eu hunain ond eu bod yn hytrach yn cael eu datblygu gan ddefnyddio dull rhanbarth cyfan o weithredu cydgysylltiedig er mwyn gwella trafnidiaeth ledled De-ddwyrain Cymru.

"Byddwn yn gweithio’n agos â’r Awdurdodau Lleol unigol i gefnogi ac i fonitro cynnydd yr holl gynlluniau Cam 1 y Metro Plus cyfredol, ac i sicrhau bod prosiectau’u datblygu mewn ffyrdd cydategol."

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Mae’n bwysig wrth i bartneriaid ledled y rhanbarth ddatblygu prosiectau i ymestyn ac i ddatblygu rhwydwaith Metro De-ddwyrain Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf bod y rhain yn cael eu cynllunio a’u cyflenwi mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol.

"Bydd y Fframwaith drafft y cytunwyd arno heddiw yn ein helpu i wneud yn union hynny – edrych ar bob un o’r 10 o brosiectau ‘Metro Plus’ sydd wedi’u cyflwyno a sicrhau eu bod wedi’u hintegreiddio, eu bod yn gyflawnadwy a’u bod yn cael eu hariannu mewn ffordd realistig.

"Edrychaf ymlaen at barhau â’n perthynas weithio ardderchog â Thrafnidiaeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’n partneriaid gwerthfawr eraill i ddarparu’r newid sylfaenol y mae arnom oll eisiau’i weld mewn trafnidiaeth gyhoeddus ledled y rhanbarth."

Dywedodd James Price, prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru: "Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflenwi Metro De Cymru fel rhan o’n rhaglen fuddsoddi gwerth £5 biliwn i drawsnewid y sector trafnidiaeth ledled Cymru. Rydym yn awyddus i weithio’n gydweithredol â phartneriaid i wella’n datblygiadau ac i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru." 

Cytunwyd mewn egwyddor ar Raglen Amlinellol Strategol ar gyfer Cam 1 y Metro Plus gan y Cabinet Rhanbarthol ar y 18fed o Chwefror, 2019. Caiff adroddiad yn awr ei gyflwyno i’r Cabinet i geisio cael cymeradwyaeth i fabwysiadu’r Fframwaith Asesu Cyffredin yn yr hydref